/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Dyrchafiad i Wrecsam: 'Dwi'n mynd am beint 'ŵan!'

Wrecsam oedd y lle i fod nos Sadwrn wedi diwrnod nodedig arall i'r clwb pêl-droed.

Roedd rhaid aros am 15 mlynedd i ddychwelyd i'r prif gynghreiriau ar ôl cwympo i'r Gynghrair Genedlaethol.

Ond daeth tro ar fyd wedi i'r actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu'r clwb yn 2020 ac mae'r tîm nawr wedi sicrhau ail ddyrchafiad o'r bron.

Yn Adran Un y bydd Wrecsam yn chwarae y tymor nesaf wedi buddugoliaeth gofiadwy o 6-0 yn erbyn Forest Green Rovers ddydd Sadwrn.

Aeth canlyniadau timau eraill o'u plaid hefyd, gan olygu bod Wrecsam yn sicr o orffen yn nhri safle uchaf Adran Dau ac felly yn sicrhau dyrchafiad awtomatig.

Roedd gorfoledd y cefnogwyr yn amlwg wrth iddyn nhw adael y Cae Ras, fel y gwelwn yn adroddiad Dafydd Evans.