Morgan yn galw am ddileu cap dau blentyn ar fudd-daliadau
Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i gael gwared ar y cap ar fudd-daliadau i blant.
Yn siarad gyda BBC Cymru ar faes Eisteddfod yr Urdd, dywedodd Eluned Morgan ei bod yn gofyn i Brif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer newid y polisi.
Ar hyn o bryd mae'r cap o ddau blentyn yn golygu nad yw'r rhan fwyaf o deuluoedd yn cael hawlio budd-daliadau ar gyfer trydydd plentyn neu unrhyw blant pellach.
Dywedodd Ms Morgan bod ei llywodraeth yn "gofidio'n enfawr am dlodi plant yng Nghymru", a'i bod wedi codi'r mater "yn uniongyrchol" gyda'r prif weinidog yr wythnos ddiwethaf.