Cymunedau Cymraeg: Cytuno 'mewn egwyddor' i fwy o gefnogaeth
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y byddan nhw'n rhoi mwy o gefnogaeth i gadarnleoedd y Gymraeg, ar ôl galwadau am "shifft radical" i atal dirywiad yr iaith.
Yn ôl cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, mae'r cyhoeddiad yn "drobwynt hanesyddol" i'r iaith.
Nod y gefnogaeth, sydd wedi'i thargedu at ardaloedd â niferoedd uchel o siaradwyr Cymraeg, yw cryfhau'r iaith yn ei chadarnleoedd.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys gwell mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg a mwy o ganllawiau am yr iaith ar draws ystod o feysydd polisi.
Dywedodd Ysgrifennydd y Gymraeg Mark Drakeford fod y llywodraeth yn cytuno gyda'r egwyddor o ddynodi ardaloedd o'r fath, ond bod gwaith i'w wneud o hyd ar sut y bydd yn gweithio'n ymarferol.
Mae rhai wedi beirniadu'r diffyg manylion yng nghyhoeddiad y llywodraeth, gan ddweud nad oes cynllun clir nac amserlen.
Bu Mr Drakeford yn egluro mwy am y cynlluniau i'n gohebydd gwleidyddol Jacob Morris.