/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Galw am gyfyngiad cyflymder ar yr A487 'ar frys'

Mae galwadau o'r newydd ar i Lywodraeth Cymru osod cyfyngiad cyflymder o 40mya ar ffordd yr A487 rhwng Gellilydan a Maentwrog, wedi gwrthdrawiad arall yno fore Gwener.

Dywedodd y llywodraeth bod y cynnig i gyfyngu cyflymder rhan uchaf Oakley Drive i 40mya dan ymgynghoriad ar hyn o bryd.

Cafodd y cynnig ei wneud yn dilyn marwolaeth menyw a babi mewn gwrthdrawiad ar y rhan honno o'r ffordd yn Ionawr 2018.

Yn ôl y Cynghorydd Elfed Roberts, rhaid cyflwyno gwelliannau i'r ffordd ar frys.