/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Colli gwasanaeth bws am 'ynysu' cymunedau yn Sir Gâr

Yn nyffrynnoedd Cothi a Thywi yn Sir Gâr mae pryder y bydd y gwasanaeth bws arferol rhwng pentrefi gwledig yr ardal yn dod i ben fis nesaf.

Mae cwmni bysus Morris Travel wedi ildio eu cytundeb gyda'r cyngor, a bydd y trefniant yn dod i ben ar 19 Ionawr.

Mae ymdrechion ar y gweill i ddod o hyd i ddarparwr newydd ar gyfer yr wyth o wasanaethau.

Ond mae Hywel Jones, sy'n defnyddio'r gwasanaeth er mwyn mynd i siopa yng Nghaerfyrddin, yn pryderu y bydd cymunedau'n cael eu hynysu hebddo.