Gwaith atgyweirio rheilffordd i barhau am wythnos

- Cyhoeddwyd
Bydd rhai gwasanaethau trên yn parhau i gael eu heffeithio am wythnos arall oherwydd gwaith atgyweirio yng Nghaerdydd.
Cafodd nifer o deithiau eu gohirio o ganlyniad i waith ar bont y tu allan i orsaf Caerdydd Canolog rhwng dydd Sul a dydd Mawrth.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru a Network Rail fod rhan fwyaf o'r gwasanaethau i mewn ac allan o Gaerdydd wedi dychwelyd i'r drefn arferol erbyn nos Fawrth.
Ond mae gwaith yn parhau ar y bont yr wythnos hon, ac mae bysiau neu ddargyfeiriadau mewn grym tan 28 Ebrill ar gyfer gwasanaethau o Gaerdydd i Lyn Ebwy.
- Cyhoeddwyd21 Ebrill
Mae'r bont yn cysylltu gorsaf Caerdydd Canolog a gorsaf Heol y Frenhines, ac yn rhedeg ar draws y gwasanaethau sy'n cysylltu Caerdydd Canolog, Casnewydd a thu hwnt.
Fe wnaeth arolwg dros y penwythnos ganfod fod rhai problemau strwythurol, ac fe gafodd gwasanaethau eu gohirio yn sgil pryderon am ddiogelwch.

Bydd trenau ond yn rhedeg rhwng Glyn Ebwy a Chasnewydd am weddill yr wythnos, gyda gwasanaethau bws neu deithiau wedi eu harallgyfeirio rhwng Casnewydd a Chaerdydd, meddai datganiad.
Mae gwasanaethau bws hefyd wedi eu trefnu ar gyfer y daith rhwng Caerffili a Coryton, meddai Trafnidiaeth Cymru a Network Rail.
Bydd gwasanaethau trên ychwanegol yn cael eu hychwanegu wrth i'r gwaith gael ei gwblhau yr wythnos hon, meddai'r cwmniau.
'Pob hawl i deimlo'n rhwystredig'
Daw hyn yn dilyn tridiau o waith atgyweirio ar bont sydd wedi arwain at amharu ar wasanaethau, meddai Great Western, Trafnidiaeth Cymru a Cross Country.
Dywedodd aelod Plaid Cymru o'r Senedd, Delyth Jewell, fod y problemau sy'n digwydd ar hyn o bryd gyda seilwaith rheilffyrdd yn symptom "o hanes Cymru o fod yn brin o ran ariannu rheilffyrdd".
Dywed llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr, Peter Fox, fod gan deithwyr "bob hawl i deimlo'n rhwystredig, yn enwedig ar ôl cynnydd o 6% ym mhris tocynnau eleni".
Dywedodd ysgrifennydd trafnidiaeth Cymru, Ken Skates, fod Trafnidiaeth Cymru yn "gweithio'n agos â Network Rail ac Amey Infatructure Cymru i ddatrys y broblem frys mor fuan a diogel ac sy'n bosib".