/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Gwaith atgyweirio 'brys' i reilffordd i barhau am ddiwrnod arall

Gweithwyr yng Nghaerdydd
  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i "waith atgyweirio brys" ar reilffordd yng Nghaerdydd barhau am ddiwrnod arall, gyda rhybudd y bydd yn cael effaith ar wasanaethau nes diwedd dydd Mawrth, 22 Ebrill.

Mae nifer o newidiadau i wasanaethau trenau de Cymru ddydd Llun yn sgil y gwaith ar bont.

Mae'r gwaith atgyweirio ger gorsaf Caerdydd Canolog wedi effeithio ar nifer o wasanaethau Great Western Railway, Trafnidiaeth Cymru a CrossCountry, yn ôl National Rail.

Mae 'na drafnidiaeth amgen yn cael ei drefnu rhwng Casnewydd a Chaerdydd Canolog.

Ddydd Llun, dywedodd National Rail y byddai amharu ar wasanaethau "tan nos Lun, 21 Ebrill".

Yn ddiweddarach, cadarnhaodd National Rail y byddai hynny'n ymestyn at ddydd Mawrth.

Pa wasanaethau sydd wedi eu heffeithio?

Dywedodd National Rail bod y gwaith atgyweirio yn amharu ar wasanaethau:

  • CrossCountry rhwng Nottingham / Birmingham New Street / Bryste Temple Meads a Chaerdydd Canolog

  • Great Western Railway rhwng Bryste Temple Meads a Chaerdydd Canolog, a hefyd rhwng Bryste Parkway ac Abertawe

  • Trafnidiaeth Cymru rhwng Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd / Glyn Ebwy / Pontypridd / Merthyr Tudful / Aberdâr / Treherbert, a rhwng Ynys y Barri a Chaerffili, a rhwng Penarth a gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd

Mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud y bydd gwasanaethau i Lyn Ebwy, Cheltenham Spa ac Amwythig yn cael eu heffeithio.

Does dim trenau'n rhedeg rhwng Pontypridd a Bae Caerdydd, na gwasanaethau i Coryton a Chaerffili.

Mae bysiau'n cael eu darparu rhwng Caerdydd Canolog a Chaerffili, ac o Gaerdydd i Gasnewydd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru, dolen allanol.

Pynciau cysylltiedig