Lluniau: Dydd Llun Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Mae Eisteddfod yr Urdd 2025 wedi dechrau heddiw, gyda'r torfeydd yn dod yn eu miloedd i Barc Margam ger Port Talbot.
Bydd tua 15,000 o blant yn cymryd rhan mewn 378 o gystadlaethau yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, Parc Margam a'r Fro.
Felly, dyma 'chydig o'r golygfeydd oedd i'w gweld ar ddiwrnod agoriadol yr Eisteddfod.

Deio a Brynmor o Ysgol Gynradd Bodffordd. Bydd y ddau yn cystadlu gyda'r côr, a bydd Deio'n cystadlu gyda'r Grŵp Dawnsio Gwerin

Cymerodd Annie-Ruby o Betws ger Rhydaman hoe fach o gerdded o amgylch y Maes i wneud jig-so. Hon yw ei hail eisteddfod

Valo a'i rieni o ardal Caerffili'n mwynhau ar y maes. Dywed Phoebe, mam Valo, ei bod hi'n awyddus i ddod â'i phlentyn i rywle ag awyrgylch cwbl Gymraeg, ac ei bod am i Valo fod yn rhan o gymuned Gymraeg

Disgybl yn Ysgol Lon Las, Abertawe yw Isobelle ac roedd hi'n edrych ymlaen i gystadlu gyda'r côr

Roedd 'na gawodydd yn ystod y dydd... gyda rhai yn mochel gyda llyfr da

Leusa Gruffydd o Ysgol Gymraeg Aberystwyth oedd enillydd cyntaf yr Eisteddfod. Daeth yn fuddugol yn y Llefaru Unigol Blwyddyn 5 a 6

Gruff o Ddinas Powys yn gwneud chwilair yn y Gwyddonle, ac wedi casglu tipyn go lew o sticeri

Llywyddion Anrhydeddus Eisteddfod Dur a Môr 2025

Mae Mali yn benderfynol o'i gwneud hi i frig y wal ddringo

Gruff, Lili a Harri o Landeilo wedi dod o hyd i het fwced deithiol BBC Cymru

Carys a Jan yn brysur yn gwneud paneidiau ar stondin Merched y Wawr

Nel ac Idris o Graig Cefn Parc yn barod i wylio Cyw
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd26 Mai
- Cyhoeddwyd24 Mai
- Cyhoeddwyd26 Mai