Taid a nain 'creulon' wedi llofruddio eu hŵyr 2 oed - llys

Bu farw Ethan Ives-Griffiths yn ddwy oed ar 16 Awst 2021
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl yn cynnwys manylion a allai beri gofid.
Mae llys wedi clywed y bu farw bachgen dwy oed ar ôl wythnosau o gamdriniaeth ac esgeulustod yng nghartref ei daid a'i nain yn Sir y Fflint.
Bu farw Ethan Ives-Griffiths ar 16 Awst 2021 o anafiadau i'w ymennydd, clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Mae Michael Ives, 47, a Kerry Ives, 46, o Garden City yn Sir y Fflint, wedi'u cyhuddo o lofruddiaeth, achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb tuag at blentyn.
Mae mam Ethan, Shannon Ives, 28 oed, o'r Wyddgrug, wedi'i chyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb tuag at blentyn.
Mae'r tri yn gwadu'r cyhuddiadau.

Mae Michael Ives, 47, wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth, achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb tuag at blentyn
Clywodd y llys fod Ethan, ei fam Shannon, a phlant eraill yn byw gyda Michael a Kerry Ives yn haf 2021.
Wrth agor yr achos yn erbyn y tri, dywedodd y bargyfreithiwr Caroline Rees KC ar ran yr erlyniad bod Ethan wedi ei drin gyda "chreulondeb" gan Michael Ives ac nad oedd Kerry Ives na'u merch Shannon Ives wedi gwneud unrhyw beth i warchod y plentyn bach.
Fe gafodd Ethan ei ddisgrifio fel "plentyn tawel, bychan a thenau oedd yn amlwg yn wannach na phlant eraill".
Cafodd ei dargedu a'i "gam-drin a'i esgeuluso," ac yn y cyfnod cyn ei farwolaeth, profodd "ofid, poen a thrallod", meddai Ms Rees.

Mae Shannon Ives, 28, o'r Wyddgrug, wedi'i chyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb tuag at blentyn
Ar 14 Awst fe gafodd yr heddlu eu galw gan y gwasanaeth ambiwlans i'r cartref yn Garden City, ger Queensferry.
Dywedodd Ms Rees mai dim ond Michael a Kerry Ives oedd yn yr ystafell fyw pan gwympodd Ethan yn anymwybodol, ac mai nhw'n unig oedd yn gwybod beth yn union digwyddodd.
Roedd ei fam Shannon Ives yn ei hystafell wely ar y ffôn ar y pryd, meddai.
Ond pan gafodd Ethan ei gludo i'r ysbyty, fe gasglodd meddygon fod ganddo anaf "catastroffig" i'w ymennydd, oedd ddim wedi ei achosi trwy ddamwain.
Nid yw ei fam wedi'i chyhuddo o lofruddiaeth, ond mae'r erlyniad yn honni ei bod hi'n ymwybodol ei fod mewn perygl, a'i bod hi "wedi gwneud dim i'w amddiffyn rhag y risg honno".

Clywodd y llys fod Ethan wedi wynebu wythnosau o gamdriniaeth ac esgeulustod yng nghartref ei daid a'i nain
Byddai'r dystiolaeth feddygol yn dangos, meddai Ms Rees, bod yr anaf wedi ei achosi gan ergyd sylweddol neu ysgwyd difrifol i'r pen ychydig funudau cyn i'r plentyn gwympo'n anymwybodol.
Yn ogystal ag anaf i'w ben roedd gan Ethan nifer o anafiadau eraill, yn cynnwys tri chlais maint blaen bys i'w foch, anafiadau i'w geg, ei fol a'i asgwrn cefn, meddai Ms Rees.
Clywodd y llys bod parafeddygon wedi darganfod y bachgen bach yn gorwedd yn anymwybodol o flaen y soffa yn yr ystafell, yn edrych fel "dyn yn ei 90au", gyda llygaid dwfn tywyll a gwefusau sychion gwaedlyd.
Yn ôl Ms Rees, roedd Kerry Ives wedi aros 20 munud cyn galw am gymorth meddygol i Ethan.
Honnodd Ms Rees bod Michael a Kerry Ives wedi oedi cyn galw am help er mwyn cynllwynio i "gelu" yr hyn ddigwyddwyd a chytuno ar eglurhad gwahanol.
"Maen nhw wedi gwneud cytundeb o dawelwch," meddai Ms Rees.
"Pam gwneud hynny oni bai bod ganddyn nhw rywbeth i'w gelu">