Dyma adnoddau addysgol yn seiliedig ar y pum merch wedi eu hanelu at athrawon Cyfnod Allweddol 2. Mae pob pecyn dysgu yn cynnwys ffilm, cynllun gwers a gweithgareddau ar gyfer plant 7-11 oed.
Mae’r adnoddau yn rhoi cipolwg ar ddigwyddiadau hanesyddol yn ystod cyfnod y merched, a’n eu cymharu gyda Chymru fodern.
Mae’r cynnwys yn mapio at elfennau o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.