/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Cyhuddo dyn 36 oed o lofruddiaeth yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Antony Gerald DerwentFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi mai Antony Gerald Derwent oedd y dyn fu farw

Mae dyn 36 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dyn 52 oed wedi digwyddiad yn ardal Wrecsam ddydd Sul.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi mai Antony Gerald Derwent oedd y dyn fu farw.

Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad ar Wheat Close yng Ngwersyllt am 05:37 ddydd Sul, ble cyhoeddwyd Mr Derwent yn farw.

Mae disgwyl i Matthew Hardy, 36, yn ymddangos ger bron ynadon ddydd Iau.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Chris Bell ei fod yn "diolch i'r gymuned leol am eu cydweithrediad, ynghyd â'r wybodaeth maen nhw wedi'i roi hyd yma".

Mae'r llu yn dal i apelio am wybodaeth.

Pynciau cysylltiedig