/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Eisteddfod 2025: Cyhoeddi rhestr anrhydeddau'r Orsedd

Mae Lili Jones, Dewi Llwyd a Mark Lewis Jones ymysg yr enwau sy'n cael eu anrhydeddu eleniFfynhonnell y llun, Getty/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lili Jones, Dewi Llwyd a Mark Lewis Jones ymysg yr enwau sy'n cael eu anrhydeddu eleni

  • Cyhoeddwyd

Mae enwau'r bobl fydd yn cael eu derbyn i Orsedd Cymru drwy anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam wedi eu cyhoeddi.

Mae'r rheiny sydd ar y rhestr flynyddol yn cael anrhydedd am "eu cyfraniad arbennig i Gymru, ein hiaith a'u cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru".

Mae rhestr lawn o'r anrhydeddau isod:

Byddan nhw'n derbyn gwisg werdd, las neu wen ar Faes yr Eisteddfod ar gyrion dinas Wrecsam, fore Llun 4 Awst a bore Gwener 8 Awst.

Ymhlith yr enwau cyfarwydd eleni mae un o ddarlledwyr mwyaf adnabyddus y Gymraeg, Dewi Llwyd, sy'n derbyn y wisg las.

Ymunodd â'r BBC yn 1979 ac ar ôl cyfnod fel gohebydd seneddol cyntaf S4C aeth ymlaen i gyflwyno rhai o raglenni mwyaf adnabyddus y BBC ar S4C gan gynnwys Newyddion, Pawb a'i Farn, Maniffesto a Taro Naw.

Daeth ei gyfnod fel cyflwynydd y rhaglen Newyddion i ben yn 2012 pan olynodd Gareth Glyn fel prif gyflwynydd newydd y Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru.

Fe gyflwynodd y rhaglen am saith mlynedd tan 2019. Mae'n parhau i gyflwyno rhaglen Dros Ginio ar ddyddiau Gwener ar Radio Cymru.

Disgrifiad,

Dewi Llwyd yn "edrych ymlaen yn fawr at ddydd Gwener y Steddfod"

"Wel rwy'n teimlo'n hynod freintiedig ac yn ddiolchgar fel rhywun sydd wedi cyflwyno am flynyddoedd lawer o faes yr Eisteddfod," meddai.

"Hon wedi'r cwbl ydy un o'r anrhydeddau mwyaf y gall Cymro Cymraeg ei chael.

"A dwi hefyd yn meddwl ei bod hi'n glod i'r cannoedd ar gannoedd o bobl sydd wedi cydweithio efo fi ac wedi hwyluso'r daith arbennig yma.

"Ac yn naturiol, ar ryw achlysur fel 'ma, dwi hefyd yn hynod ddiolchgar i'r bobl sydd wedi gwylio a gwrando mor deyrngar ar hyd y blynyddoedd."

Lili JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe siaradodd Lili Jones yn agored am y profiad o golli ei thad ar y rhaglen ddogfen fyd-enwog, Welcome to Wrexham

Bydd Lili Jones, seren clwb pêl-droed Wrecsam, hefyd yn derbyn anrhydedd.

Yn rhan o'r clwb ers yn chwech oed, mae Lili, 19, bellach yn cydbwyso bywyd prifysgol â chwarae pêl-droed ar lefel led-broffesiynol.

Hefyd yn cael ei urddo mae Mark Lewis Jones, un o actorion amlycaf Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.

Mark Lewis Jones yn ennill Bafta Cymru yn 2024Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mark Lewis Jones wnaeth dderbyn Tlws Siân Philips am gyfraniad arbennig yng ngwobrau BAFTA Cymru y llynedd

"Mae hi'n ffantastig i gael yr anrhydedd," meddai'r actor o Rosllannerchrugog. "Roedd yn sioc llwyr ac yn annisgwyl iawn."

Ychwanegodd ei bod yn wych cael yr anrhydedd "adra, fel petai" yn ei Steddfod leol.

Bydd hi'n Steddfod brysur i'r actor, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, gan ei fod hefyd yn Llywydd Anrhydeddus a bydd yn beirniadu.

Un peth fydd yn cael ei sylw fydd nodi canmlwyddiant Y Stiwt yn Rhos y flwyddyn nesaf a bydd sesiwn am hynny yn Y Babell Lên.

"Mae mor bwysig cael yr Eisteddfod yn Wrecsam - gwneud cymaint o lewyrch i'r ardal ac i'r Gymraeg. Dwi'n edrych ymlaen."

Disgrifiad,

Geraint Cynan: 'Mae 'da fi reswm i fynd nawr!'

Bydd Geraint Cynan hefyd yn cael ei anrhydeddu eleni am ei gyfraniad i ddiwylliant cerddorol Cymru ers bron i hanner canrif.

Meddai: "Fydda i ddim yn chwarae eleni yn yr Eisteddfod ond mae 'da fi reswm i fynd nawr yn does!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.