/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Pobl fregus iawn i gael blaenoriaeth derbyn bwyd ar-lein

  • Cyhoeddwyd
delifroFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae archfarchnadoedd bellach wedi cael enwau pobl fregus iawn i helpu i flaenoriaethu'r rhai sy'n derbyn bwyd, meddai Llywodraeth Cymru.

Yn sgil y pandemig, mae rhai cwsmeriaid risg uchel sydd wedi cael cyfarwyddyd i beidio â gadael y tŷ wedi dweud nad ydyn nhw'n gallu cael slotiau dosbarthu ar-lein.

Yn Lloegr, mae archfarchnadoedd wedi cael mynediad at gronfa ddata Llywodraeth y DU o 1.5m o siopwyr mewn perygl ers cryn amser.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, y dylai fod gan siopau mawr fanylion cwsmeriaid o Gymru bellach.

'Tua 85,000 o lythyrau'

Dywedwyd wrth dros 80,000 o bobl yng Nghymru i hunan-ynysu am o leiaf 12 wythnos oherwydd eu bod mewn risg uchel o coronafeirws, gan gynnwys rhai pobl hŷn a'r rhai â chyflyrau meddygol.

Dywedodd Ms Griffiths y byddai gan bob un o'r wyth archfarchnad fawr fynediad at ddata erbyn nos Fercher a'i bod yn disgwyl iddyn nhw ddechrau eu hamserlennu'r wythnos hon.

"Mae tua 85,000 o lythyrau wedi mynd allan... ac felly, i'r bobl hynny, bydd y slotiau ar-lein â blaenoriaeth ar gael," meddai.

Dywedodd Ms Griffiths nad oedd y cynllun ar gyfer y rhai sy'n cael eu hystyried yn "fregus" i'r feirws, gan na fyddai'r archfarchnadoedd yn gallu ymdopi.

Mae hefyd wedi amddiffyn pa mor hir y cymrodd i rannu'r data, gan ddweud ei bod yn bwysig bod "mesurau diogelwch priodol ar waith".

Mwy am coronafeirws
Mwy am coronafeirws