Cyfarfod i drafod pryderon am ffermydd solar ar Ynys Môn

Roedd dros 70 o bobl wedi cyfarfod yn Llannerch-y-medd, Ynys Môn, nos Iau i drafod eu pryderon am y cynlluniau
- Cyhoeddwyd
Roedd dros 70 o bobl mewn cyfarfod yn Llannerch-y-medd, Ynys Môn, nos Iau i drafod eu pryderon am gynlluniau i adeiladu dwy fferm solar newydd.
Bwriad Enso Energy a Lightsource bp yw codi i solar ar draws pedwar safle maint tua 2,000 o gaeau pêl-droed.
Gyda chapasiti o 160MW a 350MW, byddai prosiect Alaw Môn Enso Energy a phrosiect Maen Hir Lightsource bp yn cynhyrchu digon o ynni gwyrdd i gynnal dros 130,000 o gartrefi.
Mae hynny’n cyfateb i bron i bob tŷ ym Môn, Gwynedd a Chonwy.
Mae Lightsource bp yn dweud eu bod nhw’n cydnabod pryderon pobl leol.
Dyw Enso Energy heb ymateb i gais y BBC am sylw.

Mae Lightsource bp yn gobeithio codi'r i solar ar draws tri safle (gwyrdd tywyll), fyddai'n gorchuddio ardal o dros 3,000 acer
Mae yna bedwar safle dan sylw, gyda dau i'r gogledd o bentref Llannerch-y-medd a dau arall i'r de.
Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal yn Ysgol Gymunedol Llannerch-y-medd nos Iau i drafod y datblygiadau.
Mari Williams oedd un o’r rheini i rannu ei barn.
Dywedodd: “’Da ni 'di cael cynnig gan y cwmni ein hunain ond 'da ni 'di gwrthod.
"Dwi’n poeni am sut maen nhw’n mynd i effeithio ar y tir amaethyddol da.
"Dwi’n poeni achos does dim llawer o sôn am be sy’n digwydd.
"Faint o lais sydd ganddon ni fel pobl leol yn erbyn cwmnïau mawr">