Môn: Cynllun fferm solar fwyaf Cymru yn 'ddychrynllyd'
William Hughes, neu Wil Betws fel mae llawer yn ei adnabod, fu'n rhannu ei bryderon am y datblygiad
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o drigolion gogledd Môn wedi disgrifio cynllun i adeiladu fferm solar fydd yr un maint â thua 1,700 o gaeau pêl-droed fel un "dychrynllyd o fawr".
Bwriad Lightsource bp yw codi'r i solar ar draws tri safle, fyddai'n cynhyrchu digon o ynni gwyrdd i gynnal dros 130,000 o gartrefi.
Mae hyn bron gyfystyr â'r nifer o dai yn siroedd Môn, Gwynedd a Chonwy gyda'i gilydd.
Gyda chapasiti o 350MW, byddai datblygiad Maen Hir bron bum gwaith yn fwy na'r fferm solar weithredol fwyaf yn y DU.
Yn ôl y cwmni byddai'r prosiect solar a storio ynni - fydd angen caniatâd cynllunio gan Lywodraeth y DU oherwydd ei faint - yn ffordd o helpu i gyrraedd targedau sero net Llywodraeth Cymru.
Ychwanegon nhw fod bwriad i fuddsoddi mewn sgiliau, addysg a swyddi ar yr ynys.
Ond mae eisoes gwrthwynebiad yn lleol oherwydd ei faint a phryderon dros golli cymaint o dir amaethyddol o safon.
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2023
Nid dyma'r datblygiad solar cyntaf ar yr ynys o bell ffordd.
Yn ddiweddar fe gafodd datblygiad 49.9MW, dros 190 acer, ei adeiladu ger Rhosgoch.
Yn ogystal â hynny, cafodd datblygiad 35 MW ei ganiatáu i orchuddio tua 150 erw ger pentrefi Bryngwran a Chaergeiliog.

Mae Lightsource bp yn gobeithio codi'r i solar ar draws tri safle (gwyrdd tywyll), fyddai'n gorchuddio ardal o dros 3,000 acer
Ond gan fod y fferm solar arfaethedig mor fawr, gyda'r disgwyl y bydd yn cynhyrchu dros 350MW, mae'n cael ei ystyried fel Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP).
Mae hyn yn golygu mai Gweinidogion Llywodraeth y DU, yn hytrach na Chyngor Môn neu Lywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol, yn seiliedig ar argymhelliad yr Arolygiaeth Gynllunio.
Byddai'r i yn cael eu rhannu ar draws tri safle, gydag un yn Rhosgoch.
Byddai'r ddau arall i'r de o Lannerch-y-medd ac ar lan ogleddol Llyn Alaw.
'Colli tir da'
Mae William Hughes, neu Wil Betws fel mae llawer yn ei adnabod, yn byw ger y safle lle maen nhw'n bwriadu adeiladu rhai o'r i.
Y llynedd, ond dafliad carreg i ffwrdd, fe gafodd datblygiad i solar arall ei adeiladu ar dros 200 erw o dir.
Ag yntau wedi bod yn ffermio yn yr ardal am dros 50 mlynedd, dywedodd ei fod yn pryderu byddai'n golygu colli mwy o dir amaethyddol da.

Mae fferm solar 49.9MW, dros 190 acer, ger Rhosgoch
"Mae'r cynllun yma wedi dod fel dipyn o fraw i mi," meddai.
"Y broblem fwya' dwi'n weld yw ein bod yn colli tir da yma ym Môn.
"Mae hwnnw'n broblem gen i, a phan fyddan nhw'n clirio nhw o 'ma, faint o flynyddoedd gymrith hi i ddod a'r tir yn ôl i'w gyflwr gwreiddiol">