'Digalon bod cymuned yn troi arna i dros ddatblygiad tŷ hâf'

Daeth Ysgubor Plas Coch i sylw yn dilyn cwynion am "ymwelwyr swnllyd" a tharfu ar bobl leol
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog tŷ gwyliau dadleuol yng Ngwynedd yn dweud ei fod yn "ddigalon" teimlo bod ei gymuned ei hun yn troi arno yn sgil y datblygiad.
Fis Rhagfyr fe wrthododd swyddogion a rhoi caniatâd cynllunio ôl-weithredol i'r datblygiad ym Mhenisa'r-waun gan glywed bod ymateb chwyrn yn lleol, a bod y perchennog wedi dangos "diffyg parch" at y broses gynllunio.
Roedd pryderon hefyd am "ymwelwyr swnllyd yn chwarae cerddoriaeth uchel" a defnydd "swnllyd" o dwba poeth yn tarfu ar bobl leol.
Ond mae'r perchennog bellach wedi honni bod y cyhuddiadau'n "ddi-sail", gan ddweud ei fod yn credu bod caniatâd cynllunio wedi bodoli cyn iddo ddechrau adeiladu.
Dywedodd Karl Jones bod swyddogion y cyngor wedi ymweld ar sawl achlysur yn ystod y datblygu a "chymeradwyo'r gwaith oedd yn cael ei wneud - roedden nhw'n gwbl ymwybodol o'r gwaith adeiladu roedden ni'n ei wneud".
Mae Mr Jones yn dweud ei fod wedi apelio yn erbyn rhybudd i atal defnydd o'r eiddo, ond mae Cyngor Gwynedd yn gwadu bod apêl wedi'i gwneud.

Yr adeilad y tu allan (ar y chwith), cyn iddo gael ei ddatblygu
Mae'r eiddo'n cael ei hysbysebu ar wefan Airbnb - ac yn cael ei ddisgrifio fel "ysgubor wledig" sy'n cynnig "hafan o lonyddwch".
Cafodd cais cynllunio ei wrthod am y trydydd tro ddiwedd 2024, gyda rhai cynghorwyr yn dweud bod ffenest fawr yn y tŷ yn "erchyll", a phryderon hefyd am fynediad i'r adeilad, traffig, sbwriel a sŵn.
Ond mae Mr Jones yn dweud ei fod "dan yr argraff" bod y broses gynllunio "wedi'i chwblhau" pan wnaed y gwaith.
Dywedodd ei fod wedi ei eni a'i fagu yng Nghymru ac yn dal yn "falch" i fyw yma, ac mai ei fwriad oedd "dathlu prydferthwch yr ardal hon, a'n gwlad ni yn ei chyfanrwydd".
Ychwanegodd ei fod yn "ddigalon" teimlo ei fod yn cael ei alltudio gan ei gymuned ei hun am ei fod eisiau "creu dyfodol gwell" i'w blant.
Soniodd am achosion lle cafodd mwd ei daflu dros wrych a thresmasu ar yr eiddo, ac un arall o sarhad geiriol ar westeion.
'Dim apêl wedi'i gwneud'
Mae'r cyngor wedi cyhoeddi hysbysiad gorfodi ar yr eiddo, sy'n golygu y dylid dadwneud y gwaith i'r adeilad ac atal ei ddefnydd fel llety gwyliau.
Mae Mr Jones yn dweud ei fod wedi apelio yn erbyn yr hysbysiad, a hynny ers pedair wythnos.
"Rydyn ni'n brwydro yn erbyn yr hysbysiad yn gryf, yn hyderus ein bod wedi dilyn yr holl gyngor gan ein hymgynghorwyr cynllunio cyn y datblygiad," meddai.
Ond mae Cyngor Gwynedd yn honni na chafodd apêl ei gwneud mewn pryd yn erbyn y rhybudd, ac nad oedd apêl wedi'i derbyn chwaith yn erbyn gwrthod cais cynllunio ar yr eiddo.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2024