/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Gemau Olympaidd: Medal arian i Elinor Barker

Elinor BarkerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Barker bedair medal Olympaidd bellach

  • Cyhoeddwyd

Mae'r seiclwr Elinor Barker wedi ennill medal arian yn y Gemau Olympaidd ym Mharis.

Llwyddodd Barker i gipio 10 pwynt yn y funud olaf i sicrhau'r ail safle iddi hi a Neah Evans yn y Madison.

Ond Yr Eidal, chwe phwynt o'u blaenau, aeth â'r aur yn y diwedd.

Bellach, mae gan Barker bedair medal Olympaidd - y nifer uchaf erioed i Gymraes.

Hefyd nos Wener fe lwyddodd Jeremiah Azu o Gaerdydd i sicrhau medal efydd fel rhan o dîm 4x100m dynion Prydain ar y trac rhedeg.

Pynciau cysylltiedig