/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Y gyfeilyddes a'r hyfforddwraig Annette Bryn Parri wedi marw

Roedd Annette Bryn Parri yn cyfeilio i nifer o sêr - yn eu plith Bryn Terfel, Aled Jones a Hogia'r WyddfaFfynhonnell y llun, Marian Ifans
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Annette Bryn Parri yn cyfeilio i nifer o sêr - yn eu plith Bryn Terfel, Aled Jones a Hogia'r Wyddfa

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gyfeilyddes a'r hyfforddwraig o Ddeiniolen, Annette Bryn Parri, wedi marw yn 62 oed.

Ers yn blentyn ifanc iawn roedd hi â'i bryd ar ganu'r piano a bu'n gyfeilydd i nifer o sêr - yn eu plith Bryn Terfel, Aled Jones, Rebecca Evans, Eirian James, Rhys Meirion, Gwyn Hughes Jones a Leah Marian Jones.

Bu hefyd yn cyfeilio i Hogia'r Wyddfa am flynyddoedd.

Dim ond 15 oed oedd hi pan gyfeiliodd hi gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ers hynny roedd hi'n gyfeilydd cyson yn y Brifwyl, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, ac fe ymddangosodd droeon ar raglen Noson Lawen ar S4C.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl yn 1985 enillodd y Rhuban Glas i offerynwyr, a chyn hynny yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Pwllheli 1982 enillodd wobr Grace Williams am gyfansoddi.

Dywedodd ei theulu ei bod wedi marw "yng nghwmni ei phlant a'i theulu" ar ôl "cyfnod byr o waeledd".

Annette Bryn Parri a'i theuluFfynhonnell y llun, Llun teulu

Ar ôl gadael Ysgol Brynrefail, aeth Annette Bryn Parri i astudio'r piano gyda Rhiannon Gabrielson o Benmaenmawr.

Yna cafodd ei hyfforddi gan Marjorie Clement yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Manceinion lle graddiodd mewn GRNCM yn 1984.

Tra'n cyfeilio yno, roedd Annette yn arbenigo yn y Lieder, oratorio a'r opera, ond roedd ei diddordeb mwyaf yng nghyfansoddwyr y Cyfnod Rhamantaidd.

Yn 1984 ymunodd â'r Adran Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru Bangor - adran lle bu William Mathias yn bennaeth.

Annette a Hogia'r wyddfaFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bu Annette Bryn Parri yn cyfeilio i Hogia'r Wyddfa am flynyddoedd

Ers 1993 bu Annette yn cyfeilio i gorau Ysgol Glanaethwy, ac fe sefydlodd hi'r triawd TRIO, gyda'i mab Bedwyr yn un o'r aelodau, ynghyd ag Emyr Wyn Gibson a Steffan Lloyd Owen.

Rhwng 2002 a 2011 roedd hi'n gyfarwyddwr cerdd Côr Meibion y Traeth ac yn fwyaf diweddar, yn 2024, cafodd ei phenodi yn gyfarwyddwr cerdd Côr Heddlu Gogledd Cymru.

Annette Bryn Parri wedi ei chyfweliad arbennig gyda Radio Cymru yn 2019
Disgrifiad o’r llun,

Annette Bryn Parri wedi cyfweliad arbennig gyda Radio Cymru yn 2019

Yn 2014 fe gyhoeddodd ei hunangofiant, Bywyd ar Ddu a Gwyn, sy'n cofnodi cerrig milltir ei thaith gerddorol.

Yn y gyfrol honno mae'n sôn am ei hoffter o gynnal sesiynau cerdd i blant ag anghenion arbennig yn Ysgol Pendalar, Caernarfon ac Ysgol y Bont, Llangefni.

Annette a'i theuluFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ei theulu a'i gwreiddiau yn Neiniolen yn bwysig iawn i Annette Bryn Parri

Roedd ei thad a'i mam hefyd yn gerddorol, a'i dwy chwaer Olwen a Marina - ac fel Genod Tŷ'r Ysgol bu'r tair yn perfformio'n gyson.

Mae'n gadael ei thri phlentyn - Heledd, Ynyr a Bedwyr - a'u teuluoedd. Bu farw ei gŵr Gwyn yn 2021.