Criw o Ysgol y Dderwen yn llawen ar y maes

Mae'r criw yma o Ysgol y Dderwen yn dathlu ar ôl dod yn drydydd yn côr cerdd dant - llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cystadlu heddiw!

Dyna'r cyfan o'n llif byw heddiw, diolch am ddilyn.

Fe fydd straeon o'r Eisteddfod ar wefan a chyfrifon cymdeithasol Cymru Fyw am weddill yr wythnos.

Ac os ydych chi'n bwriadu ymweld â'r Eisteddfod a'n pendroni os mai welis 'ta sbectol haul fydd ei angen, gall Alex eich cynghori ar gyfrif X S4C., dolen allanol

  • Sefyllfa'r celfyddydau yn 'hollol drasig' - Caryl Parry Joneswedi ei gyhoeddi 15:52 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Mae'r celfyddydau yn wynebu sefyllfa "hollol drasig", yn ôl y gantores a'r cyflwynydd Caryl Parry Jones.

    Yn siarad ar faes Eisteddfod yr Urdd, dywedodd ein bod mewn "cyfnod lle mae'r celfyddydau yn dioddef".

    "Maen nhw'n diodde' yn ariannol, maen nhw'n diodde' o ran yr agwedd tuag at y celfyddydau," meddai.

    "Mae'r celfyddydau wastad yn rhywbeth maen nhw'n meddwl allan nhw dorri lawr arna fo; gwersi cerddoriaeth, dim ots am hynna; theatrau'n cau.

    "Mae o'n drasig. Mae o'n hollol drasig."

    Ond dywedodd ei bod yn falch o weld menywod yn amlygu eu hunain "yn fwy ac yn fwy" yn y celfyddydau, er gwaethaf yr heriau sy'n wynebu'r diwydiant.

  • "Profiad cwbl anhygoel" o ennill y Fedal Ddramawedi ei gyhoeddi 15:48 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Mae prif ddramodydd Eisteddfod Genedlaethol Dur a Môr 2025 - Elin Undeg Williams - wedi sôn wrth Cymru Fyw am y ddrama yr enillodd y wobr iddi.

    Yn ei deialog, mae Elin yn portreadu perthynas hen ffermwr sydd yn anghofus gyda'i fab.

    Roedd hi wedi mwynhau'r seremoni yn fawr, gan ei alw'n "brofiad cwbl anhygoel".

  • Diod yr Ariannin yn y glaw yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 15:39 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Teulu Grandis

    Dyma Eluned, Joseff, Llywelyn a Eseia Grandis. Mae Eseia yn wreiddiol o Drefelin ym Mhatagonia, ac roedd o ac Eluned wedi cwrdd pan oedd hi draw yn y Wladfa yn gweithio fel athrawes Gymraeg.

    Mae'r teulu bach wedi ymgartrefu yn Llanddarog ers wyth mlynedd bellach, ac Eseia yn weinidog yn Llanelli.

    Roedd Eseia wedi manteisio ar y cysgod rhag y glaw er mwyn cael llymaid bach o mate - diod traddodiadol o'r Ariannin.

    Yn ôl Ifan Evans ar Radio Cymru, mae'r tywydd wedi gwella ar y maes erbyn hyn.

  • Oeddech chi'n gwybod mai draig oedd logo gwreiddiol yr Urdd?wedi ei gyhoeddi 15:32 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Mae nifer o stondinau ar hyd a lled y maes, a sawl un yn dathlu hanes yr ardal.

    Ym mhabell Cytûn/Ysgolion Sul mae hen faner wreiddiol yr Urdd o Adran Carmel, Clydach yn dyddio o gyfnod sefydlu'r mudiad.

    Mae logo gwreiddiol yr Urdd, sef y ddraig goch, ar ganol y faner.

    Mae'n debyg mai yn 1976 y cafodd Mr Urdd ei benodi i'r swydd bwysig yma.

    Baner adran
  • Aros a gobeithio am y canlyniad cywir!wedi ei gyhoeddi 15:12 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Mae'r ardal ger Llwyfan y Cyfrwy dan ei sang gyda phobl yn aros yn eiddgar am fwy o ganlyniadau.

    Criw Llanelli

    O Lanelli mae'r criw cyffrous, tamp yma, sydd yn aros am ganlyniad y côr cerdd dant - tybed pwy fydd yn fuddugol?

  • Barod am y gân actolwedi ei gyhoeddi 15:00 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Dyma griw Aelwyd Ffynnonddrain o Gaerfyrddin yn barod i gystadlu yn y gân actol.

    Cafodd y bedair sgwrs gydag Ifan Jones ar Radio Cymru - gallwch wrando'n fyw ar frig y dudalen yma.

    Criw Aelwyd Ffynnonddrain, Caerfyrddin
  • Cyngor ar gyfer y glawwedi ei gyhoeddi 14:50 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Mae'r glaw yn dal i dywallt ar faes yr Eisteddfod, ond mae digon o gystadlu i ddiddanu pawb yn y pafiliwn coch, gwyn a gwyrdd.

    Mae gan ohebydd Cymru Fyw, Bethan Bushell gyngor doeth i ymwelwyr...

  • Aelwyd yr hwyaid?wedi ei gyhoeddi 14:38 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Tra'n cyflwyno o faes yr Eisteddfod ar ran BBC Radio Wales heddiw, fe ddaeth Dot Davies wyneb yn wyneb ag ymwelwyr go annisgwyl...

  • Elin Undeg Williams yn cipio'r Fedal Ddramawedi ei gyhoeddi 14:25 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Llongyfarchiadau i Elin Undeg Williams o o Betws Gwerful Goch, Sir Ddinbych. Hi yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, 2025.

    Dewch i adnabod Elin yn well fan yma.

    Elin Undeg WilliamsFfynhonnell y llun, Eisteddfod yr Urdd
  • Llun o archif Llyfrgell Genedlaethol Cymruwedi ei gyhoeddi 14:12 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Wyddoch chi mai llun o Gastell Margam yw'r ffotograff hynaf o bosib a gafodd ei dynnu yng Nghymru?

    Mae'r llun yn dyddio o 1841. Bron i 200 mlynedd yn ddiweddarach, mae llun o'r un castell ychydig mwy lliwgar ond dal yr un mor arbennig!

    Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges instagram

    Caniatáu cynnwys Instagram?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges instagram
  • Drama ar ddydd Mawrth y Steddfodwedi ei gyhoeddi 13:57 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    A hithau'n ddiwrnod seremoni'r Fedal Ddrama, mae Elen Wyn - un o gystadleuwyr The Traitors ac aelod o dîm cyflwyno S4C eleni - wedi dod â 'chydig o ddrama gyda hi i'r maes.

    Welwn ni ti yn y Pafiliwn Gwyn am 2:00, Awen Drama!

    Bydd y seremoni'n dechrau yn fuan a gallwch wylio'n fyw ar iPlayer.

    Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges instagram

    Caniatáu cynnwys Instagram?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges instagram
  • Tywydd ddim yn helpu... ond staff 'wedi bod yn grêt'wedi ei gyhoeddi 13:47 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Mae Richard a’i deulu wedi teithio o Abercraf i ymweld â'r Eisteddfod heddiw. Bu'n sôn wrth Cymru Fyw am ei brofiad o deithio o amgylch y maes:

    “Mae 'na fryn bach ar ôl y maes parcio ac roedd hynny’n anodd i gael dros - dydy’r tywydd ddim yn helpu chwaith.

    "Ond mae’r staff i gyd 'di bod yn grêt ac mae 'na ramps i 'neud hi’n haws i symud o gwmpas.”

    Mae gwybodaeth am hygyrchedd a chymorth wrth ymweld â maes yr Eisteddfod ar wefan yr Urdd, dolen allanol.

    Richard a'i deulu yn trafod hygyrchedd ar faes yr Eisteddfod
  • Lowri Morgan: 'Yr Urdd yn feithrinfa am fywyd'wedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Llywydd y Dydd, Lowri Morgan: "Dyw'r ŵyl ddim just yn wythnos, ond yn feithrinfa am fywyd."

    "Nes i ddysgu yn yr Urdd i ennill, nes i ddysgu hefyd sut i golli ac os o ni wir eisiau dod yn ôl i'r Eisteddfod i ganu eto, roedd rhaid i fi fynd nôl ati a dechrau eto, a dyna'r wers bwysica' dwi wedi cael yn fy mywyd i."

    Dywedodd mai ei chyngor yw i "fyth rhoi lan".

    "Os oes da chi freuddwyd peidiwch byth rhoi lan."

    "I fod yn ddewr, i beidio dilyn llwybr rhywun arall... dilynwch breuddwyd eich hunain".

    Disgrifiad,

    Lowri Morgan

  • Ymbarèls o bob lliw a llun!wedi ei gyhoeddi 13:30 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Does dim rhaid bod yn llwyd a llwm yn y glaw fel y gwelwn o ymbarèls yr eisteddfotwyr!

  • Helo Cyw!wedi ei gyhoeddi 13:23 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Adlen

    Mae sioeau Cyw yn boblogaidd eto heddiw, gyda'r Adlen dan ei sang o Steddfodwyr bach a mawr.

    Yn ogystal â pherfformio yn y sioe ar lwyfan yr Adlen, bydd Daf, Cati, Griff, Ben Dant a Melys hefyd i'w gweld yn canu o amgylch y maes yn ystod yr wythnos.

    teulu
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd y teulu yma wedi teithio o Borthmadog i fwynhau am y dydd

  • Awduron buddugol gwobrau Tir Na n-Og 'ar ben eu digon'wedi ei gyhoeddi 13:06 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Cyfrolau buddugol gwobrau Tir Na n-Og 2025Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau Cymru
    Disgrifiad o’r llun,

    Cyfrolau buddugol gwobrau Tir Na n-Og 2025

    Ar raglen S4C bu Alun Williams yn sgwrsio gyda enillwyr gwobrau Tir na n-Og 2025.

    Dywedodd Angie Roberts ei bod hi, ei gŵr Dyfan a'u merch Efa 'ar ben eu digon' ar ôl derbyn gwobr y categori cynradd am eu cyfrol Arwana Swtan a'r Sgodyn Od.

    Fe wnaeth y tri gydweithio ar y gyfrol, gyda Angie a Dyfan yn gyfrifol am y gwaith ysgrifennu ac Efa yng ngofal y dylunio.

    Gallwch ddarllen mwy am y cyfrolau buddugol fan yma.

  • Lluniau: Y Sioe Ieuenctidwedi ei gyhoeddi 12:59 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Roedd perfformiad o sioe newydd 'Dal dy Ddur' ar faes yr Eisteddfod neithiwr.

    Roedd 80 o bobl ifanc lleol yn rhan o'r cynhyrchiad.

    Disgyblion o ysgolion uwchradd rhanbarth Gorllewin Morgannwg wnaeth ysgrifennu'r sgript, gyda Nicola Hemsley-Cole a thîm Organised Kaos yn cydweithio ar yr ysgrifennu, coreograffi a chyfarwyddo.

    Roedd y sioe yn cyfuno sgiliau syrcas, actio, canu a dawnsio gyda cherddoriaeth wedi ei gyd-gyfansoddi â Tara Bethan.

    Dyma rai lluniau o'r noson.

    Cast y sioeFfynhonnell y llun, Urdd
    Cast y sioeFfynhonnell y llun, Urdd
    Rhai o actorion y sioe uwchraddFfynhonnell y llun, Urdd
  • Sut i wylio'r cystadluwedi ei gyhoeddi 12:45 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Cofiwch fod modd gwylio cystadlaethau'r pafiliynau yn ddi-dor ar wasanaeth S4C Clic, dolen allanol.

    Am y tro cyntaf eleni mae hefyd modd ail-wylio am dri diwrnod ar ôl pob cystadleuaeth.

    Mae holl ganlyniadau'r dydd i'w gweld yma, dolen allanol, neu ar ap Eisteddfod yr Urdd.

  • Pwy fydd CogUrdd 2025?wedi ei gyhoeddi 12:36 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mai

    Belle a Daisy

    Does dim rhaid canu, llefaru neu ddawnsio er mwyn cystadlu yn yr Eisteddfod. Mae ystod eang o gystadlaethau amrywiol yn cael eu cynnal, gan gynnwys y cystadlaethau coginio ym mhabell CogUrdd.

    Dyma Belle o Ysgol y Strade a Daisy o Ysgol Llanhari, sy'n brwydro am deitl Pobydd CogUrdd 2025.

    A thra fo'r cystadlu yn mynd rhagddo, mae bwyd ar feddyliau nifer o Eisteddfodwyr eraill hefyd...

    Amser cinio ar faes yr Eisteddfod
    Disgrifiad o’r llun,

    Amser cinio ar faes yr Eisteddfod