Pa iawndal sydd ar gael i ddefnyddwyr trenau?wedi ei gyhoeddi 15:28 Amser Safonol Greenwich 25 Tachwedd 2024
Mae’r ffyrdd a’r rheilffyrdd wedi eu hamharu’n fawr gan y llifogydd gyda nifer o wasanaethau trên wedi eu canslo. Dyma allwch chi ei wneud gyda’ch tocynnau, yn ôl rhai o’r cwmnïau trenau sy’n gwasanaethu Cymru:
Trafnidiaeth Cymru
Gall tocynnau ar gyfer heddiw gael eu defnyddio fory. Mae’n bosib hefyd y bydd cwmnïau trenau eraill yn derbyn y tocyn, ond dylai teithwyr edrych ar wefan Trafnidiaeth Cymru, dolen allanol cyn iddyn nhw gychwyn ar eu taith.
Mae iawndal hefyd ar gael os ydi un o wasanaethau’r cwmni yn cael ei ganslo neu ei ohirio a’ch bod chi’n cyrraedd pen eich taith fwy na 15 munud yn hwyrach na’r disgwyl.
Mae ad-daliadau ar gael os ydych chi’n penderfynu peidio teithio oherwydd bod trên wedi ei ohirio neu ei ganslo.
Great Western Railway
Bydd tocynnau ar gyfer nifer o’r trenau sydd wedi eu heffeithio heddiw yn cael eu derbyn ar wasanaethau Great Western Railway fory – gan gynnwys yn ystod oriau brig.
Os ydych chi’n penderfynu peidio â defnyddio’ch tocyn trên oherwydd y sefyllfa mae’n bosib i chi hawlio ad-daliad., dolen allanol