Ariannu cynllun beicio a cherddedwedi ei gyhoeddi 16:29 Amser Safonol Greenwich+1 9 Mai 2020
Mae'r ysgrifennydd trafnidiaeth Grant Shapps wedi cyhoeddi pecyn gwerth £2bn i roi beicio a cherdded wrth galon polisi trafnidiaeth Llywodraeth y DU.
Dywed fod yna "raglen uchelgeisiol" i baratoi'r rhwydwaith trafnidiaeth ar gyfer y "rôl hanfodol" y bydd yn ei chwarae wrth i'r DU symud i gam nesaf y pandemig.
Mae'r llywodraeth, meddai, yn gobeithio cyhoeddi cynllun beicio cenedlaethol ym mis Mehefin i helpu i ddyblu nifer y bobl sy'n beicio a chynyddu cerdded erbyn 2025.
Bydd yr angen i gynnal pellter cymdeithasol yn golygu na all y system drafnidiaeth gyhoeddus fynd yn ôl i'r arfer, meddai.
Ychwanegodd y bydd angen i gymaint mwy o bobl gerdded a beicio i gael y DU yn ôl i'r gwaith ac atal ffyrdd rhag cloi gyda cheir.
Dywed Shapps fod hyn hefyd yn cyflwyno cyfle i bobl ddod yn fwy heini a gwella eu hiechyd corfforol a meddyliol.