Tystiolaeth 'eithaf clir' ar effaith BAMEwedi ei gyhoeddi 18:00 Amser Safonol Greenwich+1 4 Mai 2020
Wrth ymhelaethu, dywedodd Ms Taj o'r TUC bod y "dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg nawr yn eithaf clir" bod gweithwyr du, Asiaidd a chefndiroedd ethnig eraill (BAME) wedi cael eu "heffeithio’n anghymesur”.
“Dy’n ni’n gwybod mai dyna’r achos mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn benodol, ond mae yna hefyd bryderon eraill ynglŷn â menywod beichiog a gweithwyr anabl hefyd.
"Felly mae gwir angen i ni sicrhau bod cyflogwyr i gyd yn cynnal asesiadau risg priodol a'u bod nhw’n sicrhau eu bod nhw’n gweithio’n ymarferol hefyd.”