'Stori dorcalonnus y tu ôl i bob ystadegyn'wedi ei gyhoeddi 16:58 Amser Safonol Greenwich+1 19 Ebrill 2020
Yng nghynhadledd y wasg llywodraeth San Steffan, dywedodd yr ysgrifennydd addysg, Gavin Williamson, bod nifer y marwolaethau yn y DU o'r sawl a gafodd brawf Covid-19 positif yn 16,060.
Dros nos roedd nifer y marwolaethau yn 596.
"Tu ôl i bob ystadegyn mae yna stori dorcalonnus," ychwanegodd.
Dywedodd hefyd na allai roi dyddiad pryd y byddai ysgolion Lloegr yn agor - rhaid i nifer y marwolaethau a nifer yr achosion o haint coronafeirws ostwng cyn llacio'r un cyfyngiad, meddai.