/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Morlyn Abertawe: Llywodraeth y DU 'ddim am gau'r drws'

  • Cyhoeddwyd
Morlyn

Mae Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth y DU wedi dweud nad yw eisiau "cau'r drws" ar gynllun morlyn Bae Abertawe.

Dywedodd Greg Clark fod trafodaethau'n parhau gyda Llywodraeth Cymru er mwyn ceisio gwneud y cynllun yn un fforddiadwy.

Wrth ateb cwestiynau yn Nhŷ'r Cyffredin, ychwanegodd fod gan weinidogion gyfrifoldeb i leihau'r effaith y byddai'n ei gael ar filiau cwsmeriaid.

Fe wnaeth adroddiad gafodd ei gomisiynu gan y llywodraeth argymell y llynedd y dylai'r morlyn llanw gael ei gymeradwyo.

'Heriau go iawn'

Fis diwethaf, daeth awgrym fod y cwmni y tu ôl i'r cynllun, Tidal Lagoon Power (TLP), wedi cynnig cytundeb newydd i Lywodraeth y DU ar bris trydan o'r lagŵn arfaethedig.

Morlyn Abertawe fyddai'r cyntaf o chwech os yw'r datblygwyr TLP yn cael eu ffordd.

Fe allai rhagor gael eu codi ar hyd arfordir gorllewinol y DU, gan gynnwys yng Nghaerdydd Casnewydd a Bae Colwyn.

Map
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad TLP yw adeiladu pum morlyn arall os yw'r un yn Abertawe yn llwyddiannus

"Roedd y cynnig yma o Abertawe yn llawer drytach, dros ddwywaith yn ddrytach na phwerdy niwclear Hinkley er enghraifft," meddai Mr Clark wrth ASau ddydd Mawrth.

"Ond rydyn ni'n parhau i fod mewn trafodaethau gyda'n partneriaid ni yn Llywodraeth Cymru.

"Dwi ddim eisiau cau'r drws ar rywbeth os oes ffordd o ganfod ffordd i'w gyfiawnhau fel rhywbeth fydd yn fforddiadwy i gwsmeriaid."

Ychwanegodd Mr Clark fod y Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cydnabod yr "heriau go iawn" oedd yn wynebu'r cynllun yn Abertawe.

"Fe ysgrifennodd y prif weinidog ata i ddoe yn cydnabod, fel roedd e'n ei ddweud, yr heriau go iawn o ystyried cynnig gyda thechnoleg oedd heb ei brofi, gyda chostau cyfalaf uchel a chryn dipyn o ansicrwydd," meddai.

"Dyna pam dwi'n meddwl mai'r ffordd orau yw edrych ar yr holl bosibiliadau, i gydnabod y rhwystrau.

"Dyna beth dwi wedi ymrwymo i'w wneud gyda fy nghydweithwyr yn Llywodraeth Cymru."

Dywedodd llefarydd ar ran TLP: "Ar adeg pan mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig rhannu'r costau ar gyfer dechrau'r cynllun er mwyn cael y sector ar ei draed, fe fyddech chi'n gobeithio bod Llywodraeth y DU yn gallu edrych tuag at strwythur y fargen sydd nawr yn bosib."