Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y rhaglen heddiw mae Ffion yn cael cwmni Carys Eleri sydd yn sgwrsio am ei sioe newydd ac unigryw o'r enw 'Tonguing'.
Mae Elinor Wyn Reynolds yn adolygu cynhyrchiad Theatr Cymru o ddrama gyntaf Tudur Owen ar gyfer y llwyfan, sef 'Huw Fyw'.
Arddangosfa 'Unearthed: The Power of Gardening' yn y Llyfrgell Brydeinig sydd yn cael sylw Dr Becca Voelcker, tra bod Sian Melganell Dafydd yn trafod drama mae hi wedi ei hysgrifennu ar gyfer cwmni 'Mewn Cymeriad' am fywyd Gwen ferch Ellis o Landyrnog, y cyntaf o bump a grogwyd am ‘witchcraft’ yng Nghymru yn yr 16eg a’r 17eg ganrif. Ac yn ymuno yn y trafod mae'r actores Lynwen Haf Roberts sydd yn portreadu 'Gwen y Witch' yn y cynhyrchiad yma.