Straeon cyfredol, cerddoriaeth, a holi'r cwestiynau sydd ar feddwl pawb. Topical stories and music.
Mae Aled yn cael clywed gan Lois ac Elan am yr hyn wnaeth Sion Corn ei adael iddyn nhw.
Ac ar ôl methu dod o hyd i'r geiriau i greu cerdd ar ddiwrnod olaf taith Plant Mewn Angen eleni, Dilwyn Morgan sy'n ôl, ond a fydd ganddo gerdd i'w rannu gydag Aled?
A bydd Aled yn sgwrsio gyda Sara Croesor yn nhafarn y Llew Coch, neu'r 'Red' fel mae'n cael ei alw gan drigolion pentref Llansannan, i weld pa hwyl fydd yn y dafarn ddiwrnod 'Dolig.