/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Beth ddigwyddodd ar Fynyddoedd y Berwyn 50 mlynedd yn ôl?

  • Cyhoeddwyd
Dynes ar y Berwyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd trigolion Llandrillo i gyd wedi'u syfrdanu gyda'r hyn ddigwyddodd ar fynyddoedd y Berwyn

Nos Fercher, 23 Ionawr, 1974. Union hanner canrif yn ôl, prin oedd trigolion pentref Llandrillo ger y Bala yn gwybod y byddai eu bywydau i gyd yn newid y noson honno.

Erbyn y bore canlynol, roedd pawb ar draws y byd yn gwybod ble oedd Llandrillo, gyda mynyddoedd y Berwyn gerllaw yn hawlio'r penawdau newyddion y diwrnod hwnnw.

Ond beth ddigwyddodd y noson honno wnaeth olygu fod pobl yn parhau i drafod y dirgelwch yma mewn cornel fach dawel o ogledd Cymru hanner canrif yn ddiweddarach?

Yn syml, does neb wir yn gwybod. Mae rhai yn honni bod llong ofod arallfydol wedi disgyn i'r ddaear, ac eraill, gan gynnwys y 'linell swyddogol' gan y llywodraeth yn honni bod esboniad gwyddonol i'r cyfan.

Disgrifiad,

Mae Geraint Edwards a'i ffrind Elgar Hughes yn mynnu eu bod wedi gweld llong ofod y noson honno yn 1974.

Roedd Huw Lloyd yn 14 oed ar y pryd ac mae'n disgrifio ar raglen Arallfydol ar BBC Radio Cymru beth ddigwyddodd y noson honno:

"Roedd hi'n tua 20:40 ac roeddwn yn gwylio'r teledu a daeth 'na ryw sŵn rhyfedd, fel thud. Ar ôl hynny dyma'r lle yn dechrau crynu.

"Dyma'r ffôn yn dechrau canu, cymdogion ar y ffôn yn gofyn 'be' oedd hwnne">