/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Golwr Wrecsam Ben Foster yn ymddeol am yr eildro

  • Cyhoeddwyd
Ben FosterFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Foster wedi cael ei berswadio i dreulio un tymor arall gyda Wrecsam yn dilyn llwyddiant y tymor diwethaf

Mae golwr Wrecsam, Ben Foster, wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol am yr eilwaith - a hynny wedi llond llaw o gemau i mewn i'r tymor newydd.

Fe wnaeth cyn-golwr Lloegr, 40, ymddeol o bêl-droed proffesiynol yn 2022, cyn iddo benderfynu ymuno â Wrecsam ym Mawrth 2023.

Bu'n rhan fawr o ddiwedd ymgyrch Wrecsam i orffen ar frig y Gynghrair Genedlaethol y tymor diwethaf.

Ond mae amddiffyn y clwb wedi bod yn sigledig ar ddechrau'r tymor newydd, gan ildio 13 gôl mewn pedair gêm yn Adran Dau.

Dywedodd y clwb mewn datganiad fod Foster wedi gwneud y penderfyniad yn dilyn y gêm gyfartal 5-5 yn erbyn Swindon brynhawn Sadwrn.

Dywedodd Foster ei fod yn teimlo nad yw ei berfformiadau wedi bod ar y lefel yr oedd eisiau, a'i fod wedi gwneud y penderfyniad i ymddeol nawr fel bod gan y clwb amser i arwyddo golwr arall cyn diwedd y ffenestr drosglwyddo.