/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Lluniau: Dathliadau yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd

Roedd 'na olygfeydd arbennig yn ninas Wrecsam nos Fawrth wrth i'r tîm pêl-droed lleol ddathlu ennill y Gynghrair Genedlaethol.

Bydd y clwb yn chwarae yn Adran Dau cynghreiriau Lloegr y tymor nesaf, ac roedd y perchenogion, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, yno i ddathlu gyda'r chwaraewyr.

Hefyd ar un o'r bysus oedd tîm merched Wrecsam, a enillodd ddyrchafiad i haen uchaf pêl-droed Cymru.

Dyma rywfaint o olygfeydd y dathlu.

ryan a robFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Y perchenogion, Rob McElhenney a Ryan Reynolds yn teithio ar fws tîm y merched

wrecsamFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Un o sêr y garfan, Paul Mullin, â'i freichiau'n uchel yn yr awyr

wrecsamFfynhonnell y llun, dwrecam
Disgrifiad o’r llun,

Yr amddiffynwyr Max Cleworth a Ryan Barnett gyda'r tlws

philFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Rheolwr Wrecsam, Phil Parkinson

bwsFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa o'r awyr wrth i'r bws basio stadiwm y Cae Ras

wrecsamFfynhonnell y llun, CARL RECINE
Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr yn dathlu o flaen tafarn enwog y Turf, ble sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 1876

bus
Disgrifiad o’r llun,

Yn y mwg rhywle mae pencampwyr y Gynghrair Genedlaethol

robFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Rob yn 'nabod rhywun yn y dorf...

BWSFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Mae amcangyfrif bod dros 20,000 o bobl wedi sefyll ar y strydoedd i longyfarch y garfan

RYANFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ryan Reynolds wrthi'n ffilmio Deadpool 3 ar hyn o bryd

mullinFfynhonnell y llun, DWrecsam
Disgrifiad o’r llun,

'Super' Paul Mullin ac Elliot Lee ar flaen y bws

fosterFfynhonnell y llun, dwrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Un o arwyr diwedd tymor Wrecsam - y bytholwyrdd Ben Foster

bws
Disgrifiad o’r llun,

Ben Tozer ac Ollie Palmer yn gafael yn dynn ar y tlws

bwsFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Y bws yn mynd lawr Ffordd yr Wyddgrug

wrecsamFfynhonnell y llun, dWrecsam
Disgrifiad o’r llun,

O gefn y bws; golygfa arbennig o'r dathliadau