/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Wrecsam yn sicrhau dyrchafiad i'r uwchgynghrair

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, John Smith/FAW
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Wrecsam yn chwarae yn yr Adran Premier y tymor nesaf

Bydd Wrecsam yn chwarae yn yr Adran Premier y tymor nesaf wedi iddynt drechu Llansawel brynhawn Sul.

Chwaraewyd y gêm dyngedfennol yn y Drenewydd wrth i bencampwyr y gogledd a'r de gystadlu am un lle yn y brif adran.

Ond yn erbyn llif y chwarae roedd gôl Rebecca Pritchard wedi 74 munud yn ddigon i sicrhau dyrchafiad i'r Dreigiau.

Roedd gan Wrecsam hefyd llawer i ddiolch i Delyth Morgan yn dilyn arbediad holl bwysig o ymdrech Mollie Jones ym munud olaf y 90 pan roedd drwodd ar y gôl.

Hefyd tarrodd Llansawel y bar o gic rydd yn ystod eiliadau ola'r gêm.

Roedd Wrecsam wedi sicrhau pencampwriaeth yr Adran North yn erbyn Cei Connah o flaen torf o dros 9,000 fis diwethaf.

Roedd cyd-gadeiryddion y clwb, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, eisoes wedi addo bydd y garfan yn troi'n led-broffesiynol petaent yn ennill dyrchafiad i'r uwchgynghrair.

Er gwaetha'r siom bydd Llansawel nawr yn troi eu golygon at wynebu Caerdydd yn rownd derfynol Cwpan Cymru penwythnos nesaf.