/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 3-0 Caerefrog

  • Cyhoeddwyd
Ben FosterFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe aeth wynebau cyfarwydd o Hollywood i fwynhau buddugoliaeth Wrecsam o 3-0 ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

James Jones aeth am yr ergyd lwyddiannus gyntaf tua diwedd yr hanner cyntaf gyda'r bêl yn cyrraedd cefn y rhwyd oddi ar y goliwr Ryan Whitley.

Sam Dalby ddaeth â'r ail gyda pheniad ac Elliot Lee yn sicrhau'r trydydd cyn y chwiban olaf.

Mae'r fuddugoliaeth yn cadw Wrcesam driphwynt yn glir ar frig y tabl.

Ryan Reynolds at the Racecourse GroundFfynhonnell y llun, Matthew Ashton - AMA/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth Ryan Reynolds â'i blant a'i wraig, Blake Lively, i'r gêm ddydd Sadwrn

Fe wnaeth perchnogion y clwb, Ryan Reynolds a Rob McElhenney ymddangosiad gyda rhai aelodau'r teulu.

Roedden nhw'n rhan o dorf o 10,161 ar y Cae Ras - y cyfanswm uchaf i'r clwb y tymor hwn.