/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Y Gynghrair Genedlaethol: Bromley 1-2 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Paul MullinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Paul Mullin - unwaith eto - oedd yr arwr i Wrecsam

Mae Wrecsam wedi ymestyn eu mantais ar frig y Gynghrair Genedlaethol wedi i goliau Paul Mullin drechu Bromley.

Er i'r gêm ddechrau 15 munud yn hwyr oherwydd problemau traffig, wnaeth hi ddim cymryd hir i Wrecsam ddechrau achosi problemau i'r tîm cartref.

Tarodd Jacob Mendy a Ben Tozer y trawst gyda chyfleoedd cynnar, ond di-sgôr oedd hi ar yr egwyl.

Fe aeth y Dreigiau ar y blaen wedi 56 munud diolch i beniad Mullin, cyn i'r ymosodwr ddyblu'r fantais bron yn syth gyda chic acrobataidd dros ei ben.

Ychydig wedi hynny fe sgoriodd Michael Cheek ar y postyn pellaf i ddod â Bromley 'nôl mewn iddi, ond daliodd Wrecsam eu gafael ar y fuddugoliaeth.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn agor tri phwynt o fwlch ar frig y Gynghrair Genedlaethol, gyda gêm mewn llaw, wedi i Notts County gael gêm gyfartal yn Barnet.