/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Clwb Salsa Bangor yn mynd o nerth i nerth

Wrth gerdded ar hyd stryd Bangor ucha' ar nos Iau, prin fod unrhyw un sy'n pasio'n ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd y tu fewn i glwb Rascals.

Wrth edrych i mewn drwy'r ffenest mae'n edrych fel unrhyw dafarn gyffredin.

Pobl yn yfed wrth y bar a rhai yn chwarae pwl. Ond, mewn gwirionedd, mae'r adeilad n llawn dop, gyda 50 o bobl yn dawnsio salsa allan o olwg y stryd.

I fyny grisiau'r clwb yn ystafell 'The Loft' mae Criw Salsa Bangor yn cwrdd pob nos Iau.

Dyma ychydig o hanes y clwb a chip olwg ar y dawnsio.