/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Y Gynghrair Genedlaethol: Maidstone 2-3 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
aaron haydenFfynhonnell y llun, Getty Images

Taith i dde ddwyrain Lloegr oedd yn wynebu'r Dreigiau ddydd Sadwrn ac mewn llai na hanner awr roedd Wrecsam ar y blaen.

Luke Young sgoriodd. Wedi i ymgais Paul Mullin gael ei harbed daeth y bêl at draed Young, 25 llath o'r gôl, ac fe rwydodd yn rymus.

Daeth cyfle i Paul Mullin sgorio ei chweched gôl ar hugain wedi i'r Dreigiau gael cic o'r smotyn ar ôl awr o chwarae ac fe rwydodd gan ddyblu mantais Wrecsam.

Fe ddaeth y tîm cartref yn ôl i'r gêm yn yr ail hanner - gôl i Jack Barham ar ôl 72 munud ac yna fe sgoriodd ail gôl gan ddod â'i dîm yn gyfartal ar ôl 79 munud.

Y tîm cartref fu'n pwyso wedi hynny ac roedd Wrecsam yn ceisio dal gafael yn y gêm.

Ond yn y funud olaf fe sicrhaodd Aaron Hayden gôl arall i Wrecsam - y cefnwr yn sgorio gôl hanfodol i'w dîm.

Er nad oedd Notts County yn chwarae oherwydd y tywydd, parhau yn ail yn y Gynghrair Genedlaethol ar gyfanswm goliau y mae Wrecsam ond gyda gêm wrth gefn o hyd.