Galw am wirfoddolwyr i gynllun sy'n helpu dysgwyr Cymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae Liz Day o Benarth (dde) wedi ei pharu gyda'r gyflwynwraig Yvonne Evans
Mae 'na alw am fwy o bobl i fod yn rhan o gynllun i helpu dysgwyr Cymraeg i ddod yn rhugl.
Mae cynllun Siarad y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn paru siaradwyr Cymraeg gyda dysgwyr.
Dros y flwyddyn ddiwethaf roedd 280 o ddysgwyr yn rhan o'r cynllun, ond roedd mwy na hynny yn aros am bartner.
Pwrpas y cynllun yw rhoi cyfle i ddysgwyr fagu hyder i sgwrsio yn Gymraeg a'u cyflwyno i gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith yn gymdeithasol.
'Siarad tu allan i'r dosbarth'
Dim ond ers dwy flynedd mae Liz Day o Benarth ger Caerdydd yn dysgu'r iaith.
Fe wnaeth hi gwrs dwys ac ers blwyddyn a hanner mae hi wedi cael ei pharu gyda'r gyflwynwraig Yvonne Evans.
Yn ôl Liz mae hynny wedi bod yn help mawr.

"Mae'r Gymraeg dwi'n ei glywed tu allan i'r dosbarth yn gallu bod yn wahanol iawn," medd Liz Day
"Ro'n i'n dysgu Cymraeg yn ystod y cyfnod clo felly ro'n i'n siarad Cymraeg bob dydd ar Zoom, ond doedd dim llawer o gyfle i siarad tu allan i'r dosbarth," meddai.
"Mae'n bwysig iawn pan wyt ti'n dysgu iaith i ymarfer ac ymarfer, felly roedd hi'n ddefnyddiol iawn i gwrdd ag Yvonne a gallu siarad Cymraeg tu allan i'r dosbarth.
"Mae'r Gymraeg dwi'n ei glywed tu allan i'r dosbarth yn gallu bod yn wahanol iawn. Mae'n bwysig hefyd achos ro'n i'n poeni am siarad gyda phobl tu allan i'r dosbarth.
"Pan dwi'n siarad gydag Yvonne, dwi'n dysgu llawer o eirfa newydd hefyd."