/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Gyrrwr ambiwlans o Wynedd yn gwadu achosi marwolaeth

  • Cyhoeddwyd
GwrthdrawiadFfynhonnell y llun, Erfyl Lloyd Davies

Mae gyrrwr ambiwlans o Wynedd wedi gwadu achosi marwolaeth claf yn dilyn gwrthdrawiad y llynedd.

Roedd Emrys Roberts, 61 o Fangor, yn gyrru ambiwlans oedd yn cludo cleifion nad oedd yn achosion brys, pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad yn Nolgellau ar 8 Ebrill 2021.

Bu farw'r claf Janet Winspear, 76 o Dywyn, yn dilyn y digwyddiad.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun, fe blediodd Mr Roberts yn ddieuog i gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal.

Roedd yr erlyniad wedi dweud yn flaenorol bod yr ambiwlans, oedd yn cario Ms Winspear yn y cefn, wedi gwrthdaro â cherbyd yn dod i'r cyfeiriad arall.

Cafodd Mr Roberts ei ryddhau ar fechnïaeth tan yr achos llawn y flwyddyn nesaf.

Pynciau cysylltiedig