/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Arestio gyrrwr wedi i seiclwr farw mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Heol Cwmafan a Rhes LlundainFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Cwmafan, ger y troad am Rhes Llundain

Mae gyrrwr wedi cael ei arestio ar ôl i seiclwr farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhort Talbot fore Iau.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i'r digwyddiad ar y B4286, Heol Cwmafan am tua 06:40.

Dywedodd y llu fod y seiclwr - dyn 38 oed o ardal Margam - wedi bod mewn gwrthdrawiad â char Vauxhall Astra.

Mae dyn 33 oed o Faesteg wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae Heddlu'r De yn parhau i ymchwilio, ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dash-cam o'r ardal ar y pryd i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig