/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Y Brenin Charles i gael ei goroni fis Mai nesaf

  • Cyhoeddwyd
Y Brenin Charles yng Nghastell Caerdydd ym mis MediFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd y Brenin Charles yn cael ei goroni'n swyddogol ym mis Mai 2023.

Dywedodd Palas Buckingham y bydd y seremoni'n cael ei gynnal yn Abaty Westminster ar 6 Mai.

Archesgob Caergaint fydd yn arwain y seremoni a bydd y Frenhines Gydweddog, Camilla, yn cael ei choroni hefyd.

"Adlewyrchu rôl y Brenin heddiw ac edrych i'r dyfodol" fydd nod y seremoni, yn ôl y Palas.

Ond dywedon nhw y bydd "wedi ei wreiddio mewn traddodiadau a phasiant".

Mae'r seremoni yn ddathliad ac yn wasanaeth grefyddol sydd wedi ei gynnal ers canrifoedd.

Dywedodd y Palas y bydd y seremoni yn "cynnwys yr un elfennau creiddiol" tra'n "cydnabod ysbryd ein hoes".

Mae disgwyl i'r Brenin arwyddo proclomasiwn sy'n cyhoeddi dyddiad y Coroni yn swyddogol mewn cyfarfod gyda'r Cyfrin Gyngor yn ddiweddarach eleni.

Pynciau cysylltiedig