Tata: Pryder am swyddi dur heb gymorth ariannol
- Cyhoeddwyd

Mae gan gwmni dur Tata safleoedd ym Mhort Talbot, Casnewydd, Llanelli a Shotton
Mae perchenogion cwmni dur Tata wedi dweud ei bod yn bosib y bydd yn rhaid cau safleoedd ym Mhrydain oni bai fod y cwmni yn cael cymorth i adeiladu ffwrnesi trydan ym Mhort Talbot.
Dywed y cwmni fod y ffwrnesi yn rhan o gynllun i'w galluogi i gyrraedd targedau lleihau allyriadau carbon.
Mae'r cwmni, sy'n cyflogi tua 6,600 o weithwyr ym Mhort Talbot, Casnewydd, Llanelli a Shotton yn ceisio am gytundeb o £1.5bn gyda Llywodraeth y DU.
Mae Tata am adeiladu dwy ffwrnes trydan newydd - gan ddisodli'r rhai presennol - ym Mhort Talbot er mwyn lleihau allyriadau carbon.
Dywedodd cadeirydd Tata Natarajan Chandrasekaran wrth bapur newydd y Financial Times fod angen dod i gytundeb gyda'r llywodraeth o fewn 12 mis "neu bydd yn rhaid edrych ar gau safleoedd".
Cost y ffwrnesi newydd fydd tua £3bn gyda Tata yn gofyn am gymorth o £1.5bn oddi wrth Lywodraeth y DU.
Dywed Llywodraeth y DU fod y diwydiant dur "yn chwarae rhan allweddol" yn economi'r DU a bod Tata yn "gynhyrchydd dur o bwys sy'n cael ei werthfawrogi a'u bod yn gyflogwr pwysig".

Mae gwaith dur mwyaf y DU, ym Mhort Talbot, yn cyflogi 4,000 o bobl
Fel pob grŵp diwydiannol sy'n allyrru carbon deuocsid, gofynnwyd i Tata dorri'r rhain, ac mae swyddogion gweithredol wedi bod yn trafod â Llywodraeth y DU.
Ond dywedodd Aelod Seneddol Aberafan, Stephen Kinnock, fod Llywodraeth y DU yn llusgo eu traed ar y mater.
"Does yna ddim diwydiant dur yn y byd fydd yn gallu digarboneiddio heb gymorth sylweddol llywodraeth, felly pam yn y byd fod Rishi Sunak, Liz Truss a gweddill y cabinet wedi bod yn llusgo eu traed mor hir">