'Dim diddordeb' gan rai cynghorau mewn llwybrau beic newydd
- Cyhoeddwyd

Dywed Lee Waters nad yw rhai cynghorau â diddordeb mewn gwneud cynnig am arian teithio llesol
Does gan rai cynghorau ddim diddordeb mewn gwneud cais am arian ar gyfer llwybrau beicio a cherdded newydd, yn ôl gweinidog Llywodraeth Cymru.
Fe wnaeth Lee Waters ei sylwadau wrth i'r llywodraeth gyhoeddi pa awdurdodau fyddai'n derbyn arian ar gyfer prosiectau eleni.
Mae'n rhaid i gynghorau wneud cais am ran fwyaf yr arian - sy'n dod o gronfa gwerth cyfanswm o £50m.
Dywedodd Mr Waters bod yr argyfwng hinsawdd yn golygu bod angen i awdurdodau lleol "weithredu nawr".
Ni ddywedodd y dirprwy weinidog dros newid hinsawdd at ba gynghorau yr oedd yn cyfeirio.
Ond dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod "cynghorau wedi croesawu'r cynllun hwn".
"Mae ambell gyngor eisoes wedi gwneud cais, ac mae eraill yn gweithio ar geisiadau i ddatblygu prosiectau'n lleol," meddai llefarydd.
Mae pob cyngor yng Nghymru'n derbyn "dyraniad craidd" o o leiaf £500,000 gan y Gronfa Teithio Llesol bob blwyddyn.
Roedd Mr Waters yn siarad yng nghanolfan Pedal Power yng Nghaerdydd - elusen seiclo sydd wedi derbyn arian gan y llywodraeth ac sydd wedi gwario peth o'r arian ar ehangu eu e-feiciau.

Jacqui McQuillan: "Mae 'na gymaint o ardaloedd lle nad oes gennym unrhyw lwybrau o gwbl"
Mae Jacqui McQuillan yn byw yng Nghaerdydd ac yn mynd i ganolfan Pedal Power bob wythnos. Mae'n defnyddio e-feiciau yr elusen ac yn dweud eu bod yn "newid byd".
Dywed y byddai'n hoffi gweld rhagor o lwybrau beicio ar y ffyrdd sy'n "frawychus" i deithio arnynt.
"Mae'r rhai sydd gyda nhw yma yn wych, ond mae cymaint o ardaloedd lle nad oes gennym ni lwybrau o gwbl, neu mae gennym ni rai sy'n stopio'n sydyn, a beth sy'n digwydd wedi hynny">