/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Claf canser yn ennill brwydr gyfreithiol am driniaeth

  • Cyhoeddwyd
Maria WallpottFfynhonnell y llun, Maria Wallpott
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Maria Wallpott ei bod "eisiau byw i weld fy mhlant yn graddio, disgyn mewn cariad a chael eu plant eu hunain"

Mae cyfreithwyr menyw o Gaerffili sydd â math o ganser prin yn dweud ei bod wedi ennill ei hapêl yn erbyn y rheiny wnaeth wrthod ariannu triniaeth iddi allai achub ei bywyd.

Roedd meddygol wedi gwrthod ariannu triniaeth i Maria Wallpott o Bontllanfraith ddwywaith, er bod meddygon y gwasanaeth iechyd yn argymell y driniaeth iddi.

Cafodd Ms Wallpott, 50, wybod fis Ebrill bod ganddi ganser difrifol ar ei phendics, sydd ers hynny wedi ymledu i'w ofarïau.

Dywedodd ei chyfreithwyr fod barnwr Uchel Lys wedi canfod o blaid Ms Wallpott yn y llys ddydd Gwener.

Mae'r penderfyniad yn golygu y bydd yn rhaid i'r ailedrych ar yr achos.

Dywedodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC) y bydd yn ystyried penderfyniad y llys y "gweithredu'n briodol".

Chanolfan Cyfiawnder Sifil a Theuluol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gwrandawiad yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Cyfiawnder Sifil a Theuluol Caerdydd

Mewn datganiad yn dilyn y gwrandawiad dywedodd Ms Wallpott ei bod yn teimlo "rhyddhad".

"Mae'r - sydd ddim yn arbenigwyr ar fy nghyflwr i - wedi anghofio eu bod yn delio â bod dynol, nid achos hypothetical," meddai.

"Er hynny, rydw i'n dal angen i'r wneud y peth iawn a rhoi'r cyfle i mi oroesi'r canser yma.

"Rydw i eisiau byw i weld fy mhlant yn graddio, disgyn mewn cariad a chael eu plant eu hunain - ydy hynny'n ormod i ofyn amdano">