/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Ffoaduriaid yn gwybod 'yn fuan' eu bod mewn gwlad ddwyieithog

  • Cyhoeddwyd
Swyddog Ffiniau'r DU yn rhoi cymorth i ffoadur wrth iddi gyrraedd o AfghanistanFfynhonnell y llun, AFP

Bydd ffoaduriaid o Afghanistan yn sylweddoli "yn fuan" eu bod mewn cenedl ddwyieithog, medd un o weinidogion Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, y bydd yn edrych ar "ein cynlluniau presennol" sy'n helpu ffoaduriaid i ddysgu Cymraeg, er mwyn "sicrhau eu bod yn dda".

Fe wnaeth y ffoaduriaid cyntaf gyrraedd Cymru o Afghanistan yr wythnos ddiwethaf ar ôl iddyn nhw ffoi o Kabul wedi i'r Taliban gymryd rheolaeth o'r wlad.

Dywedodd yr Urdd eu bod yn cyflwyno'r Gymraeg "yn naturiol drwy gyfrwng ein gweithgareddau" i blant a phobl ifanc sy'n ffoaduriaid.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan BBC Cymru Fyw

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan BBC Cymru Fyw

Yn y Senedd, gofynnwyd i'r gweinidog gan AS Plaid Cymru Heledd Fychan a oedd yn cytuno "fel rhan o roi pob cyfle i ffoaduriaid gwmpasu eu bywyd yng Nghymru yma yn llawn, y dylid hefyd gynnwys rhoi cyfle iddynt ddysgu Cymraeg os ydynt eisiau">