'Gwnewch y pethau bychain' - cerdd Ifor ap Glyn
- Cyhoeddwyd
'Gwnewch y pethau bychain' - cerdd arbennig i BBC Cymru i nodi dydd ein nawddsant
Mae Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, wedi ysgrifennu cerdd arbennig i BBC Cymru i nodi dydd ein nawddsant eleni.
Ei neges yntau, fel neges Dewi ei hun, yw i 'wneud y pethau bychain', ac i annog defnyddio'r Gymraeg mewn sgwrs, er mwyn hybu dwyieithrwydd:
"Dwi'n grediniol fod y Gymraeg yn eiddo i bawb yng Nghymru," meddai'r prifardd, "a bod hi'n rhywbeth ddylai ein huno ni yn hytrach na'n rhannu ni.
"Ac er bod defnyddio ambell air o Gymraeg yn llam mawr seicolegol i lawer, mewn gwirionedd peth bach ydi o yn y bôn - ac yn un ffordd ymarferol i ni ddilyn cyngor ein nawddsant, a 'gwneud y pethau bychain'.
"Dyna dwi'n ceisio annog yn y gerdd hon - hyd yn oed os ydach chi 'mond yn gwybod cwpwl o eiriau yn Gymraeg - defnyddiwch nhw! Gallwn ni'n fuan iawn gael pobl i ddweud 'Shwmae">