Dechrau profi myfyrwyr cyn mynd adre dros y Nadolig
- Cyhoeddwyd

"Bydden i'n casáu mynd adre a mynd â rhywbeth nôl i mam-gu a gweddill y teulu," meddai Lois Campbell
"Mae e'n fwy o gysur i fi'n bersonol yn gwybod bo' fi'n gallu mynd gartre'n ddiogel, yn gwybod bo' fi'n gallu gweld mam-gu a theulu a gwneud yn siŵr bo' nhw i gyd yn ddiogel."
Mae Lois Campbell, myfyriwr yn ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi trefnu apwyntiad am brawf Covid cyn dychwelyd adre am y Nadolig.
Ar draws Cymru, mae prifysgolion yn cynnig profion asymptomatig fel rhan o gynllun ledled y DU i reoli sefyllfa fydd yn gweld degau o filoedd o fyfyrwyr yn teithio ar ddiwedd y tymor.
Fe fydd dysgu prifysgolion Cymru yn symud ar lein o 8 Rhagfyr a myfyrwyr yn cael eu hannog i deithio erbyn 9 Rhagfyr.
"Mae llawer iawn o achosion yng Nghaerdydd ar y foment, felly bydden i'n casáu mynd adre a mynd â rhywbeth nôl i mam-gu a gweddill y teulu os o'n i ddim yn gwybod bo' fi yn saff i wneud 'ny", meddai Lois o Landeilo.
'Dal ar y ffens' am gael prawf

Dywedodd Deio Owen bod teimladau "cymysg" ymysg myfyrwyr am y profi
Dydy Deio Owen, sydd ym mlwyddyn gyntaf cwrs Cymraeg a Gwleidyddiaeth, ddim yn gallu cael prawf am ei fod wedi cael prawf positif am Covid o fewn yr wyth wythnos ddiwethaf.
Mae'n dweud bod yna deimladau "cymysg" gan y myfyrwyr mae'n eu 'nabod am y profi.
"Dwi'n meddwl fydden i wedi ei gael o just o ran sicrwydd bo' fi ddim yn rhoi o i neb adre gan bo' fi'n dod o ddinas ac yn mynd nôl i ardal wledig adre," meddai Deio o Bwllheli.
"Ond hefyd ella ddim oherwydd 'da chi ddim yn gw'bod os yw'r prawf gant y cant cadarn, o ran gallu rhoi false negative i chi, ac wedyn 'da chi'n rhedeg y risg yna hefyd, so dwi dal ar y ffens mewn ffordd os fuaswn ni wedi cael o neu ddim."

Trwy gynnig profion o ddechrau Rhagfyr, y bwriad yw sicrhau bod unrhyw fyfyrwyr sy'n gorfod hunan-ynysu yn gallu gorffen y cyfnod mewn pryd i ddychwelyd adref ar gyfer y Nadolig.
Mae'r rhan fwyaf o brifysgolion Cymru yn cynnig profion cyflym fel rhan o raglen brofi myfyrwyr y llywodraeth.
Ond mae Prifysgol Caerdydd wedi rhedeg rhaglen brofi ei hun ers dechrau'r tymor.
Hyd yn hyn mae tua 6,000 o fyfyrwyr wedi cofrestru ar gyfer prawf fel rhan o'r rhaglen brofi Nadolig - sy'n rhedeg rhwng 30 Tachwedd a 15 Rhagfyr.