Cynnydd yn yr henoed sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Eileen Vaughan: 'Anodd cadw dau ben llinyn ynghyd'
Mae canran y pensiynwyr yng Nghymru sy'n byw mewn tlodi wedi cynyddu yn ystod y pum mlynedd diwethaf, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Dywed Sefydliad Joseph Rowntree fod bron i un ymhob pump o bensiynwyr (19%) yn byw mewn tlodi.
Yn ôl eu gwaith ymchwil, Cymru sydd â'r canran uchaf ond un o wledydd a rhanbarthau'r DU, o'i gymharu ag 20 mlynedd yn ôl lle Cymru oedd yr isaf ond un.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymroi yn llwyr i daclo tlodi ac anghyfartaledd yng Nghymru, ond fod degawd o lymdra dan law Llywodraeth y DU ynghyd â thoriadau yn eu lwfansau wedi "taro cymunedau Cymru yn galed".
Dywed yr adroddiad mai Cymru sydd â'r canran uchaf o dlodi ymhlith pensiynwyr o holl wledydd y DU.
Ond mae'r canran o blant sy'n byw men tlodi yng Nghymru wedi lleihau i lai nag un ym mhob tri (29%), sydd fymryn yn llai na'r cyfartaledd ar gyfer y DU sef 30%.
Mae'r cyfartaledd yn codi i 44% o ran plant sy'n byw mewn teuluoedd un rhiant.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau y bydd mynd i'r afael â thlodi "yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon".
Barn pensiynwraig
Dywedodd Eileen Vaughan, 84 oed o Flaenafon, fod dod â dau ben llinyn ynghyd yn anodd.
"Mae'n rhai i chi feddwl am beth sydd gennych yn barod cyn mynd i brynu," meddai.
"Dwi'n mynd i'r siopau nawr ac mae pethau yn codi yn eu pris bod wythnos.
"Yr un arian sydd gennym ni a blynyddoedd yn ôl, ond mae'n rhaid dod i ben ac mae costau byw wedi codi," meddai Ms Vaughan, sy'n derbyn pensiwn gwladol.

Emma Williams: 'Ddim yn hawdd i rieni'
Mae gan Emma Williams, 37, dri o blant - 16 oed, tair oed ag wyth mis.
Dywedodd y fam sy'n byw ym Mlaenafon pan iddi gael ei hail blentyn, Darwin, nid oedd yn gymwys ar gyfer cynllun Dechrau'n Deg - cynllun sydd â'r nod o daclo tlodi plant.
Pan ddychwelodd i waith mewn cymdeithas dai, dywedodd mai ei theulu oedd yn talu am ofalwr i'r plant.
"Roedd e'n ddrud iawn, tua £500 y mis dwi'n meddwl.
"Os na fyddwn yn gweithio yn llawn amser yna mae'n gyfran mawr o'r cyflog petai fi'n rhan amser."
'Cyfeiriad cywir'
Ond yna dywedodd iddyn nhw symud i dŷ mwy o faint mewn rhan arall o'r dref, ac yna roedden nhw'n gymwys ar gyfer y cynllun.
Dywedodd: "Mae'n fater o loteri'r post cod, yndi? Pe bai chi ar gyflog isafswm ac yn gorfod talu hynny, yna dwi'n gallu gweld pam nad yw bobl yn mynd i weithio.
"Rwy'n credu bod y 30 awr o ofal plant am ddim yn anhygoel, a dwi'n meddwl fod hynny yn gam i'r cyfeiriad cywir.
"Pe byddwn yn rhoi'r gorau i waith nawr oherwydd ei fod yn galed a bod yr arian ddim yn gwneud synnwyr, ond a fyddwn yn cael yr un gwaith a'r un tâl mewn tair blynedd ac dwi'n cael nawr">