/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Canolfan newydd i oruchwylio'r Metro

  • Cyhoeddwyd
metroFfynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Map arfaethedig o Fetro De Cymru

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn agor canolfan newydd fore Mercher fel y cam nesaf tuag at wireddu gwasanaeth Metro De Cymru.

Bydd Canolbwynt Isadeiledd y Metro yn agor yn Nhrefforest, a bydd yn cynnwys swyddfeydd rheoli ac adnoddau dosbarthu.

Oddi yno mae Trafnidiaeth Cymru'n gobeithio cyflawni "gweddnewidiad o leiniau'r Cymoedd" fel rhan o Metro De Cymru.

Drwy uno llwybrau trenau, bysus a theithio actif, nod y Metro fydd gwella cysylltiadau teithio ar draws y de, gan wella mynediad at swyddi, hamdden a chyfleoedd eraill i'r trigolion.

Cafodd prosiect Metro De Cymru ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Un o rhannau mwyaf blaenllaw y Metro fydd buddsoddiad o £738m i leiniau'r cymoedd i Dreherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful, Rhymni a Choryton.

Fe ddywed Trafnidiaeth Cymru y bydd mwy na 170km o'r trac yn cael ei drydaneiddio, a bydd gorsafoedd, signalau a thraciau yn cael eu huwchraddio gan gynnwys codi o leiaf pum gorsaf newydd.

Am y pum mlynedd gyntaf bydd y ganolfan newydd yn cael ei defnyddio fel canolfan ddosbarthu deunyddiau, ac yna'n troi'n ganolfan gynnal a chadw tan ddiwedd cyfnod y cytundeb.