/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Trais cyfnod yr ŵyl: 'Mae mor bwysig i gerdded i ffwrdd'

  • Cyhoeddwyd
Vaughan Edwards gyda'i wraig, Christine, ei lys-ferch, Emma Sharp, a'i mab hithau, JayFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Edwards gyda'i wraig, Christine, ei lys-ferch, Emma Sharp, a'i mab hithau, Jay

Bron i ddwy flynedd wedi ymosodiad ar ddiwedd parti gwaith Nadolig a laddodd dyn 54 oed, mae ei weddw yn annog pobl i bwyllo wrth fwynhau dathliadau'r ŵyl.

Mae Christine Edwards yn cefnogi ymgyrch gan Heddlu Dyfed-Powys, a gofnododd dros 130 o achosion o drais difrifol y llynedd ble roedd y troseddwyr wedi bod yn yfed wrth ddathlu'r Nadolig a'r flwyddyn newydd.

Mae'r llu'n tanlinellu cost ymddygiad treisgar i ddioddefwyr a'u teuluoedd ac i'r troseddwyr eu hunain gan ofyn i bobl ystyried: "Gallech chi fyw gyda chyfnod mewn carchar, Nadolig yn y ddalfa, a'r pwysau emosiynol o wybod bod yr hyn wnaethoch chi wedi anafu rhywun yn ddifrifol neu hyd yn oed lladd rhywun">