'Comisiynydd y Gymraeg yn ymchwilio i lai o gwynion'
- Cyhoeddwyd

Mae Aled Roberts yn dweud ei bod yn bwysig gweithredu'n effeithlon
Dywed Cymdeithas yr Iaith bod ganddynt wybodaeth newydd sy'n dangos bod Comisiynydd newydd y Gymraeg wedi gwrthod ymchwilio i dros 70% o gwynion a dderbyniodd am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg yn ei fis cyntaf yn y swydd a mai dyma y ganran uchaf ers i'r safonau ddod i rym.
Mae'r Gymdeithas yn credu bod y ffigyrau, a dderbyniwyd drwy gais rhyddid gwybodaeth, yn dangos fod "perygl y bydd y cyhoedd yn colli ffydd" yng ngwaith Aled Roberts.
Ond mae Aled Roberts yn mynnu mai'r "budd gorau i'r cyhoedd yw blaenoriaeth Comisiynydd y Gymraeg wrth ddelio â chwynion am ddiffyg defnydd neu ddefnydd anfoddhaol o'r Gymraeg".
Ychwanegodd mai datrys diffygion a gwella'r gwasanaeth Cymraeg yw'r flaenoriaeth, a'i fod yn ystyried hyn wrth benderfynu a fydd yn cynnal ymchwiliad ffurfiol i gŵyn.
Ffigyrau'n amrywio
Mae ffigyrau Cymdeithas yr Iaith yn dangos fod Mr Roberts wedi ymchwilio i 26% o'r cwynion a dderbyniwyd yn ystod ei fis cyntaf yn y swydd - ffigwr a honnir sy'n llawer is na'r un mis yn y tair blynedd ddiwethaf.
Mae yr un ffigyrau yn nodi bod y cyn-Gomisiynydd, Meri Huws, wedi ymchwilio i 75% o'r cwynion a dderbyniodd ym mis Ebrill 2018.
Ond dywed y Comisiynydd iddo rhwng Ebrill a Gorffennaf 2019, dderbyn 43 o gwynion gan y cyhoedd lle roedd amheuaeth bod sefydliad yn torri un neu ragor o'u dyletswyddau i ddefnyddio'r Gymraeg.
Ychwanegodd Mr Roberts ei fod wedi agor ymchwiliad statudol i 21 (48%) ohonynt. Roedd y 22 cwyn arall, meddai, yn gwynion lle roedd y sefydliadau dan sylw wedi cadarnhau eu bod wedi cymryd camau i ddatrys y mater neu wedi ymrwymo i wneud, ac wedi rhoi sicrwydd digonol bod y mater yn annhebygol o ddigwydd eto.
Mae'r Gymdeithas yn honni hefyd bod gohebiaeth rhwng y Comisiynydd a Gweinidog y Gymraeg, sydd wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar, yn dangos bod y Comisiynydd wedi newid ei bolisi ar ymdrin â chwynion yn dilyn pwysau gan y Llywodraeth.

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Tamsin Davies o Gymdeithas yr Iaith: "Y pryder rydyn ni'n ei glywed gan nifer o aelodau'r Gymdeithas yw nad ydyn nhw'n teimlo bod y system gwyno, ers i Mr Roberts gael ei benodi, yn blaenoriaethu buddiannau siaradwyr Cymraeg bob tro.
"Mae gwrthod agor ymchwiliadau i gymaint o gwynion yn mynd i wanhau ein hawliau iaith os yw'r patrwm yn parhau. Heb ymchwiliadau i gwynion, does dim modd gorfodi unrhyw newid i bolisi neu aferion sefydliad.
"Felly, mae perygl, drwy ymddwyn fel hyn, y bydd cyrff yn cael y neges ei bod yn iawn iddyn nhw anwybyddu'r gyfraith. Mae 'na berygl hefyd y bydd y cyhoedd yn colli ffydd yn y Comisiynydd i ymdrin â'u cwynion o ddifrif.
"Mae'n warthus bod y Llywodraeth wedi dwyn pwysau ar y Comisiynydd i gymryd agwedd sy'n fwy ffafriol i gyrff a chwmnïau. Mae'n hollol annerbyniol hefyd bod swyddfa'r Comisiynydd wedi ildio a mabwysiadu polisi newydd ar ddelio â chwynion - fe ddylen nhw fod yn gwbl annibynnol ar y Llywodraeth. Fel arall, pwy sy'n mynd i amddiffyn yr iaith a'i siaradwyr">