Ffoaduriaid Casnewydd yn dysgu Cymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae 25 o ddysgwyr yn mynychu'r dosbarthiadau Cymraeg yng Nghasnewydd
Mae grŵp o fenywod yng Nghasnewydd, sy'n ffoaduriaid, wedi penderfynu dysgu Cymraeg er mwyn ceisio datblygu eu dealltwriaeth o iaith a diwylliant eu cartref newydd.
Y Groes Goch Brydeinig sydd wedi trefnu'r gwersi, a hynny ar gais y menywod sy'n ffoaduriaid neu sydd wedi dod i'r ddinas yn ceisio lloches.
Yn ôl yr elusen dywedodd rhai o'r merched a oedd yn cymryd dosbarthiadau Saesneg gyda'r Groes Goch y llynedd bod ganddyn nhw hefyd ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg.
Dechreuodd y cwrs 10 wythnos ym mis Chwefror, ac mae'r gwersi yn cynnwys cyflwyniad i ymadroddion Cymraeg sylfaenol, a hanes a diwylliant Cymru.
"Mae fy mab yn dysgu caneuon Cymraeg yn y feithrinfa ac roeddwn i eisiau ei ddeall", meddai Dong Mei, un o'r dysgwyr.
"Yn y dosbarth rydym i gyd yn dod o wahanol wledydd," meddai, "ac rydym i gyd yn ddysgwyr newydd, felly rydym ar yr un lefel.
"Gallaf nawr siarad rhai geiriau ac ymadroddion gan gynnwys rhifau, dyddiau a misoedd.
"Gallaf hefyd ddweud cyflwyniadau a chyfarchion fel "Bore da", "Sut mae" a "Sut wyt ti">