/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Dyn yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad lori ar yr A55

  • Cyhoeddwyd
Damwain lori LlanddulasFfynhonnell y llun, TraffigCymru

Mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty wedi i lori droi drosodd ar yr A55 yn Sir Conwy.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y lôn orllewinol yn Llanddulas tua 21:00 nos Sul, a bu'n rhaid dargyfeirio traffig am rai oriau wedi hynny.

Cafodd criwiau tân ac achub o Fae Colwyn ac Abergele eu danfon i'r safle yn ogystal â chriw achub arbenigol o Wrecsam.

Mae'r lori wedi cael ei symud ond mae tagfeydd hir wedi bod yn yr ardal fore Llun wrth i'r awdurdodau ailagor y lôn orllewinol rhwng cyffyrdd Llanddulas ac Abergele.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Damwain lori LlanddulasFfynhonnell y llun, Traffig Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd lôn orllewinol yr A55 ar gau yn gyfan gwbwl am rai oriau dros nos